Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Owain Gwynedd

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Davies 1987; Walker 1990

Ysbardunodd marwolaeth Henri I ym 1135 bolisďau grymusach a mwy gelyniaethus ar ran y Cymry, er i weithredu cadarn gan Stephen (y brenin a olynodd Henri) ac arglwyddi'r Gororau ragarwyddo amddiffyn llwyddiannus. Ym mis Rhagfyr 1154 fe olynwyd Stephen gan Henri II a oedd yn benderfynol o adfer awdurdod i'r deyrnas ac unioni'r niwed a achoswyd gan dyndra sifil a diffyg gweinyddiaeth ganolog gadarn. Erbyn 1157 roedd yn barod i roi ei sylw i Gymru.

Fe gariwyd Cymru drwy'r blynyddoedd anodd hyn gan ddau dywysog, Owain Gwynedd yn y gogledd a Rhys ap Gruffydd yn ne Cymru. Roedd y ddau yn ymwybodol o'r problemau cymhleth a oedd yn rhaid eu hwynebu: ymdrin â llinachau cystadleuol Cymreig, ymdrin ag arglwyddi'r Gororau a byw yng nghysgod cymydog cyfoethog a phwerus. Ymatebai Owain yn brydlon i wirioneddau gwleidyddol y cyfnod a waeth pa mor aml y bu raid iddo ildio, ni chollodd y blaen.

Ganwyd Owain Gwynedd, Tywysog Gwynedd 1137-70, tua 1109. Ym 1137 fe olynodd ei dad Gruffydd ap Cynan (1081-1137) yn nheyrnas Gwynedd, a estynai dros y rhan fwyaf o ogledd Cymru. Tra'r oedd Lloegr wedi'i dal mewn rhyfel cartref, defnyddiodd Owain ei allu fel gwladweinydd a milwr i ymestyn ei ffiniau. Ym 1157 arweiniodd Henri II ei ymgyrch gyntaf yn erbyn Owain, ond cadoediad fu ei diwedd hi. Bu raid i Owain dalu gwrogaeth i Henri, ond ymhen ychydig wedyn roedd yn gweithredu'n gwbl annibynnol eto. Pan fu farw Madog ap Maredudd ym 1160, ymosododd ar Bowys ac ymestynnodd ei ddylanwad tua'r dwyrain. Chwe blynedd yn ddiweddarach ceisiodd Cyngor Woodstock israddio'r tywysogion Cymreig o statws ymlynwyr i statws gweision dibynnol, ac fe arweinwyd y gwrthryfel a ddilynnodd gan Owain a Rhys ap Gruffydd o dde Cymru. Methiant llwyr fu ail ymdrech Henri i orchfygu Cymru a gadawyd Owain yn rhydd i gymryd cestyll Basingwerk a Rhuddlan (l166-67). Ym 1168 fe gychwynnodd ar drafodaethau gyda Louis VII o Ffrainc i sefydlu cynghrair rhwng Gwynedd a Ffrainc yn erbyn eu gelyn cyffredin. Roedd yn llwybr a ofynnai graffter aruthrol a chrebwyll cadarn. Mewn un ffordd argoeliai bolisi a fyddai'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol gan arweinwyr mwy diweddar Gwynedd, ceisio cydnabyddiaeth a chynghrair yn Ewrop. Wedi herio Henri yn gwbl agored ym 1168 drwy gynnig cymorth i Louis, cadwodd Owain ei sefyllfa annibynnol hyd ei farwolaeth. Ar ei ôl gadawodd yr enw o fod yn ddoeth a hael.

Nodwedda teyrnasiad Owain Gwynedd gyfnod mwyaf heddychlon y Gymru annibynnol, pan fu i'r tywysogion Cymreig dderbyn llawer o syniadau diwygiol cyfoes Ewrop ac addasu strwythurau mwyaf effeithiol yr eglwys a'r wladwriaeth i'w cymdeithasau eu hunain. Anogwyd sefydlu mynachlogydd, diffiniwyd ffiniau esgobaethol, ac adeiladwyd llawer o eglwysi carreg. Bellach adeiladid cestyll tomen a beili, tebyg i'r rhai a adeiladwyd ynghynt gan y Normaniaid, yn ganolbwyntiau i lawer o'u hystadau personol. Dywedir mai dau o feibion Owain a adeiladodd y cestyll carreg cyntaf yng Ngwynedd tua diwedd y 12ed ganrif. Y drychineb, sy'n fynych yn hanes Cymru, oedd nad olynwyd Owain yn uniongyrchol gan arweinydd cadarn. Yn dilyn ei farwolaeth ym 1170, torrodd rhyfel rhwng ei feibion: lladdodd Dafydd a Rhodri eu hanner-brawd hyn, Hywel, ac am ugain mlynedd wedyn rhannwyd Gwynedd rhyngddynt a'u perthnasau. Ni welai Wynedd na Chymru arweinydd cryf arall hyd nes i Lywelyn Fawr ymestyn ei reolaeth dros y rhan fwyaf o Gymru tua diwedd y ganrif.

 

Llinach Owain Gwynedd ac arweinwyr Gwynedd
Yn ôl i'r mynegai cestyll
Yn ôl i fynegai'r brif dudalen

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas