Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

 

Llywelyn Fawr

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Yng Ngwynedd, roedd Llywelyn ab Iorwerth wedi dod i rym yn null clasurol y tywysogion Cymreig a blagiwyd gan reol dosrannu etifeddiant yng Nghymru - fe'i dygodd gan ei ewythr. Fe'i profodd ei hun i fod y mwyaf, a'r mwyaf adeiladol o wladweinwyr Cymreig y Canol Oesoedd. Yn ystod ei yrfa hir fe lwyddodd, drwy ryfela cyson, drwy ildio'n dringar o dan bwysau, a thrwy wydnwch medrus pan ollyngwyd y pwysau, i ddod 'r rhan fwyaf o Pura Walia o dan ei reolaeth. Pan fu farw ym 1240, yn llawn anrhydedd a bri, fe adawodd dywysogaeth a chanddi'r posibilrwydd o dyfu i fod, yn wir, yn wladwriaeth Gymreig. Am gyfnod, fe edrychai'n debyg bod y Gymru Rydd ar fin dod i fodolaeth.

Fe gychwynnodd Llywelyn yn fwriadol ar bolisi o ail-adeiladu holl sylfaen bywyd gwleidyddol Cymreig, er nad oedd pob Cymro'n gwbl hapus yn ei gylch. Roedd Llywelyn yn byw mewn oes a welodd ymddangosiad y wladwriaeth ffiwdal ganolig. Roedd Ffrainc a Lloegr yn datblgu eu mecanwaith gweinyddol, yn rhoi sylfaen newydd a chadarnach i'w system o drethu ac yn systemu'r gyfundrefn gyfreithiol, ond roedd tywysogaeth Llywelyn yn fach ac yn dioddef o ddiffyg adnoddau. Gallai sylwebyddion Saesneg gelyniaethus gellwair ynghylch ei hawl i statws rhyngwladol

Roedd Gwynedd wedi bod yn ganolbwynt grym y tywysogion erioed, ac fe ganiataodd estyn tiriogaeth Llywelyn iddo wneud llawer o bethau y tu hwnt i rym cyn reolwyr Cymreig. Fe welir Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn ein Llyw Olaf) yn datblygu adeiladu cestyll ar raddfa sylweddol. Mae olion Castell y Bere neu Ewlo, Dolbadarn a Dolwyddelan yn dangos steil Cymreig nodweddiadol. Fe roddodd y tywysogion siarteri i'r trefi bychain a oedd yn tyfu yn eu tiriogaethau. Roeddent yn cefnogi'r abatai a'r mynachlogydd. Roedd yna deimlad bod Cymru newydd yn dod i fodolaeth, a honno, ar y pryd, i bob pwrpas yn Gymru annibynnol. Y cwestiwn mawr oedd, a fyddai'r Gymru newydd yn gallu datblygu i'w llawn botensial heb ymyrraeth o'r tu allan neu brotestiadau o'r tu mewn? Yn taflu cysgod drosti roedd brenin Lloegr.

Dros hyn i gyd fe bwysai'r cwestiwn dadleuol ond hanfodol o union dermau teyrngarwch Llywelyn i'r brenin. Fe gydnabuwyd y brenin erioed yn ben y pyramid ac erbyn y 13eg ganrif fe dderbyniai rheolwyr Cymreig yr egwyddor o dalu teyrngarwch i frenin Lloegr. Roedd Hywel Dda wedi gwneud hynny, ymhell yn l yn y 10ed ganrif, ac roedd Owain Gwynedd a'r Arglwydd Rhys wedi talu teyrngarwch i Henri II. Y broblem oedd bod Llywelyn yn honni bod ei statws mewn perthynas Brenin Lloegr yr un statws Brenin yr Alban - bod y barwniaid i dalu teyrngarwch yn uniongyrchol iddo fo ac nid i'r brenin, ond nid oedd y Brenin John o'r un farn. Fe deimlai y dylai'r barwniaid hefyd dalu teyrngarwch iddo fo. Fe roddai hyn yr hawl iddo ymyrryd yn gyson mewn materion Cymreig. Ar adegau roedd y berthynas rhwng Llywelyn a'r brenin yn gefnogol i'w gilydd, yn rhannol gan fod Llywelyn wedi priodi Joan, merch anghyfreithlon y Brenin John, ym 1205. Ond fe dorrwyd y cysylltiad teuluol hwn yn fuan oherwydd y cwestiwn o deyrngarwch a thiriogaethau dadleuol.

Ar y dde: Arch Llywelyn, Capel Gwydir, plwyf Llanrwst

Pan oedd y tywysogion Cymreig yn gryf gallasant orfodi cydnabyddiaeth amharod o'u sefyllfa gan y brenin. Pan oeddent yn wan, fe roddai'r brenin gytundebau gan gadw'n gadarn at ei syniad ef o deyrngarwch. Roedd Llywelyn Fawr wedi ceisio datrys y broblem cyn ei farwolaeth. Roedd ganddo ddau fab, Gruffydd, drwy Gymraes, a'r mab ieuengaf, Dafydd (David) drwy ei wraig Joan. Roedd cyfraith Gymreig ar y pryd yn datgan y dylai'r ddau fab etifeddu - cyfraith a oedd wedi bod wrth wraidd cymaint o'r olyniaethau dadleuol hynny a oedd wedi dod dinistr i Gymru yn y gorffennol. Fe wnaeth Llywelyn ymgais ddewr a llwyddiannus i roi'r gyfraith Gymreig beryglus hon o'r neilltu o blaid y drefn Seisnig, gan gael caniatad Henri III - neu ei ymgynghorwyr - i dderbyn Dafydd yn unig etifedd iddo. Ychydig cyn ei farwolaeth fe alwodd holl dywysogion Cymru ynghyd yn Abaty Glyn y Groes ym 1238 a'u gorfodi i dyngu llw o deyrngarwch i Ddafydd. Fe ganiataodd Henri III iddo esgyn i'r orsedd, ond fe wrthododd i Ddafydd dderbyn teyrngarwch uniongyrchol y barwniaid, gan arwain yn y pen draw at ryfel rhwng y brenin a'r tywysog Cymreig newydd. Nid oedd gan Ddafydd a'i luoedd siawns yn erbyn byddin fawr Henri a bu iddynt dynnu'n l. Fe fu farw Dafydd, heb blant, ychydig yn ddiweddarach, a'r nesaf i fynnu annibyniaeth Cymru unwaith eto fyddai wyr Llywelyn, Llywelyn ap Gruffydd.

Wales - A History, Wynford Vaughan-Thomas, Michael Joseph Ltd Publishing, Llundain WC1, 1985.

 

  • Llinach Llywelyn ap Iorwerth ac arglwyddi Gwynedd
  • Yn l i'r mynegai cestyll
  • Yn l i fynegai'r brif dudalen

     


    Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

    Copyright 2009 by Jeffrey L. Thomas

  •