Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Rhys ap Gruffydd

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Corffddelw, tybiedig Rhys ap Gruffydd, ar feddrod yn Nhy Ddewi

Un o ddatblygiadau mawr y 12ed ganrif yn ne Cymru oedd sefydlu Rhys ap Gruffydd - a adnabyddid fel yr Arglwydd Rhys - yn arglwydd teyrnas adnewyddedig y Deheubarth. Yn dilyn marwolaeth Gruffydd ym 1137 fe weithiodd ei bedwar mab yn agos gyda'i gilydd i amddiffyn a chyfnerthu eu tiriogaeth. Cymerodd y pedwar, Anarawd, Cadell, Maredudd a Rhys, yr awenau yn eu tro ac mae'n debyg na fu dim anghytgord rhyngddynt. Ymestynai eu hymosodiadau o orllewin Cymru hyd at arglwyddiaeth Morgannwg. Fe ddienyddiwyd Anarawd gan wyr o ogledd Cymru ym 1143; fe lwyddodd Cadell a'i frodyr iau i adennill Ceredigion, yn ei gwneud unwaith eto yn rhan o'r Deheubarth, cyn anafu Cadell mor ddifrifol gan y Normaniaid o Ddinbych y Pysgod nes ei fod wedi ei ddileu i bob pwrpas o'r byd gwleidyddol. Bu farw Maredudd ym 1155, yn gadael Rhys yn arglwydd teyrnas y de.

Roedd yn olyniaeth ryfeddol o heddychlon a di-drais. Rhwng 1158 a 1165 roedd Rhys o dan bwysau enfawr gan Henri II. Fe'i perswadiwyd i ildio, er gwaethaf colli tiroedd pan ddychwelwyd Ceredigion a Chantref Bychan i'w harglwyddi Normanaidd. Roedd dial disymwth gan Rhys a'i berthnasau, ymgais i gymryd Caerfyrddin ym 1159, ac ymosodiad llwyddiannus ar Lanymddyfri ym 1162 yn arwyddion o berygl cyson i Henri II: ni fyddai'r tywysog Cymreig yn derbyn cynnydd yn nifer yr Eingl-Normaniaid yng ngorllewin Cymru. I Rhys roedd ildio a herio yn rhan o wrthdaro egnol y ffin. Ym mlynyddoedd olaf y 1160au fe newidiodd yr hinsawdd wleidyddol yn ne Cymru a bu raid i Henri ail-ystyried lle'r tywysog Cymreig ac arglwyddi'r gororau yn ei bolisi.

Cododd y newid o ddiddordeb Richard Strongbow yn Iwerddon. Roedd Iwerddon yn atyniad i wyr gorllewin Cymru, ac yn arbennig i feibion ac wyrion Nest, merch Rhys ap Tewdwr. I roi terfyn ar eu hannibyniaeth yn Iwerddon fe lansiodd Henri ei ymgyrch ei hun ym 1171; roedd ganddo ef a'i olynwyr ddiddordeb agos yn y tiroedd Gwyddelig a oresgynwyd gan yr ymsefydlwyr Eingl-Normanaidd, a chwaraeai swyddogion brenhinol ran bwysig mewn materion yn ymwneud hwy. Yng Nghymru byddai ymgynghreirio rhwng y brenin a thywysog y Deheubarth yn ystryw gwerthfawr; mae'n anodd gwybod pryd y crybwyllwyd hyn, ond erbyn yr hydref 1171 roedd telerau eu nesd yn gytunedig. I Rhys, y canlyniad cyntaf, a'r pwysicaf, oedd cadarnhau ei ddeiliadaeth dros y tiroedd yr oedd wedi eu goresgyn, Ceredigion, Cantref Bychan, Emlyn, a dau gwmwd yn ymyl Caerfyrddin. Cadarnhad olaf ei statws oedd y teitl Prifustus De Cymru; fe ddefnyddiwyd teitl Seisnig a gariai awdurdod clir y brenin i warantu awdurdodaeth dros arweinwyr a chymunedau Cymreig megis arglwyddiaethau Gwynllwg, Brynbuga, Caerleon, Morgannwg, Elfael a Maelienydd a ddibynnai ar Rhys.

Tra bu Henri fyw roedd Rhys yn gynghreiriad ac yn swyddog ffyddlon. O'i ran ef, bodlonai Rhys ar wneud y mwyaf o'i berthynas gyda'r brenin, ond daliai hefyd i feddwl ac ymddwyn fel tywysog Cymreig annibynnol. Fe ail-adeiladodd Gastell Aberteifi er ei ddefnydd ei hun, a defnyddiodd briodasau i gadarnhau ei sefyllfa. Wrth i'r 12ed ganrif ddod i'w therfyn roedd Rhys unwaith eto'n ymgyrchu yn erbyn y goron ac uwch arglwyddi'r gororau deheuol, ac ar yr un pryd roedd yna gryn le i'w gysylltu gelyniaethau mewnol ymhlith ei berthnasau. Darogan dirywiad ei frenhinlin a machlud ei deyrnas a wnai'r helyntion hyn. Erbyn ei farwolaeth ym 1197 roedd wedi chwarae rhan amlwg mewn rhyfel a gwleidyddiaeth am drigain mlynedd, ac wedi bod y mwyaf blaenllaw o dywysogion Cymru am dros ddeugain mlynedd.

David Walker, Medieval Wales. Cambridge University Press, 1990.

 

Llinach yr Arglwydd Rhys ac arglwyddi'r Deheubarth
Yn l i'r mynegai cestyll
Yn l i fwydlen y brif dudalen gestyll

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Jeffrey L. Thomas