Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Gwenllian
Tywysoges of Cymru

gan Sian Beidas

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Nid oedd Gwenllian ond ychydig fisoedd oed pan laddwyd ei thad, Llywelyn ein Llyw Olaf, ger Pont Irfon ar 11 Rhagfyr 1282. Roedd ei mam, cyfnither Llywelyn, Eleanor de Montfort, wedi marw wrth roi genedigaeth iddi ym Mhlas Pen-y-Bryn, Abergwyngregyn ger Bangor, Gwynedd ar 12 Mehefin 1282.

Fe briododd Llywelyn ac Eleanor (merch Simon de Monfort) yng Nghaerwrangon ym 1278 wedi i Eleanor gael ei rhyddhau yn dilyn cyfnod o ryw dair blynedd fel carcharor coron Lloegr. Gwenllian oedd unig blentyn y briodas.

Nid oedd unrhyw feibion, felly, i gymryd teitl Tywysog Cymru ond fel merch y Tywysog Llywelyn, Gwenllian oedd aeres Tywysogion Gwynedd a theulu brenhinol Aberffraw. Roedd yn Dywysoges Cymru ac o'r herwydd cynrychiolai berygl sylweddol i frenin Lloegr. Oni bai am eu perthynas drwy waed mae'n debyg y byddai'r brenin wedi peri iddi hithau gael ei lladd hefyd. Fe'i tynghedwyd yn hytrach, ar orchymyn Edward I, i dreulio gweddill ei bywyd o'r neilltu mewn priordy o'r urdd Gilbertaidd yn Sempringham yn swydd Lincoln. Cadwodd Edward deitl 'Tywysog Cymru' i'r goron gan ei roi i'w fab Edward, a arwisgwyd yng Nghaernarfon ym 1301 yn 17 oed.

Roedd Sempringham yn bell o Gymru, ac roedd yr urdd Gilbertaidd yn urdd Seisnig dan arweiniad prior uchel ei barch. Digon naturiol felly oedd gofyn i'r prior o Sais warchod y dywysoges Gymreig am y swm anrhydeddus o £20 y flwyddyn. Er i'r dywysoges gael ei hanfon i Sempringham i'w rhwystro rhag chwarae rhan yn hanes Cymru, roedd brenin Lloegr yn barod i ddefnyddio Gwenllian i'w fantais ei hun os oedd gwir angen. Pan brofodd Sempringham anawsterau ariannol ysgrifennodd y brenin at y Pab i ofyn am gymorth, gan ei atgoffa mai'r prior oedd gwarchgeidwad merch Llywelyn, Tywysog Cymru.

Treuliodd Gwenllian ei hoes yn ffendiroedd gwastad dwyrain Lloegr yn hytrach nag ym mynydd-dir gwlad ei geni ac, yn ôl pob tebyg nid adnabu sain ei mamiaith erioed. Drwy gydol ei chyfnod yn y priordy ni lwyddodd y Saeson i gael ei henw'n iawn: fe'i rhestrir dan yr enw 'Wencilian' yng nghofrestri'r priordy ac mae'n debyg iddi hi ei hun arwyddo'i henw fel 'Wentliane'.

Yn ôl cofnodion y priordy bu farw Gwenllian, merch Tywysog Cymru, ym 1337 wedi treulio pumdeg a phedwar o flynyddoedd yn yr urdd. Mae'n debyg mai llwyddiant fu cynllwyn Edward o sicrhau na fyddai etifeddes Llywelyn ein Llyw Olaf yn chwarae rhan yn hanes Cymru. Nid yw'n hawlio mwy na chyfeiriad byr yn y llyfrau hanes a hyd at yn ddiweddar iawn bu'n angof yn Sempringham. Fodd bynnag, yn dilyn ymgyrch dan arweiniad y Capten Richard Turner o Gaernarfon ac Angharad Thomas, ym 1993 gosodwyd carreg goffa o lechen las Gymreig yn Sempringham yn dwyn yr ysgrif:

Er cof am

Gwenllian

Merch Llywelyn ein Llyw Olaf

Ganed yn Abergwyngregyn 12.6.1282

By farw yn Sempringham 7.6.1337

Wedi bod yn garcharor yma am 54 mlynedd

 

 

Yn ôl i'r mynegai cestyll
Yn ôl i fwydlen y brif dudalen gestyll

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright © 2009 by Sian Beidas and the Castles of Wales Website