Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Ymgyrch Olaf y
Tywysog Llywelyn

Hawlfraint 1998 gan Paul M. Remfry

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Ar 30 Hydref fe apwyntiwyd Roger Lestrange yn gapten byddin Trefaldwyn yn lle'r diweddar Roger Mortimer yr Hynaf. Symudodd yn fuan i'w reolaeth newydd yn Sir Amwythig, gan adael castell Llanfair ym Muallt, y bu'n ei warchod gynt i'r brenin, yn nwylo John Giffard. I gynorthwyo Lestrange yn ei swyddogaeth newydd gorchmynwyd Peter Corbet (Caus), Gruffydd ap Gwenwynwyn (Powys), John Lestrange (Knockin), Robert Mortimer (Richard's Castle) a Reginald fitz Peter (Blaenllyfni) i'w wasanaethu. Cyn gynted ag y cyrhaeddodd Lestrange Trefaldwyn fe 'geisiodd gywiro'r hyn a ymddangosai o'i le iddo ef'. Wrth ymateb i orchymyn gan y brenin atebodd na fuasai'n peryglu ei luoedd o Sir Amwythig drwy ymdeithio dros fynyddoedd Berwyn a Rug i ymosod ar y gelyn. Yn hytrach buasai'n defnyddio'i ddynion mewn gwarchae, gan fod cyflenwadau'n dal i ddod i mewn i Gymru i gyrraedd Llywelyn heb yn wybod i neb. Gofynnodd felly i'r Iarll Warenne gadw gwyliadwriaeth agos am nwyddau gwaharddedig yn Bromfield (Maelor). Gofynnodd hefyd am i Roger Mortimer yr Ieuaf wneud yr un modd yn y Waun ac felly hefyd y beilïaid ym Muallt ac Aberhonddu, y Foneddiges Matilda Mortimer ym Maesyfed a'i mab Edmund ym Maelienydd. Yn amlwg nid oedd Lestrange dan unrhyw gamargraff ngl yn â phwy oedd yn cyflenwi Llywelyn, er yn ôl pob tebyg ni wyddai pam. Ar y noson yr ysgrifennwyd y llythyr hwn clywodd Roger fod Llywelyn wedi dod i lawr i diroedd Gruffydd (ap Gwenwynwyn mae'n debyg. Ymestynai tiroedd Gruffydd i Arwystli yr ymdeithiodd Llywelyn drwyddynt yn ôl pob tebyg). O'r herwydd roedd yn ailymgynnull ei luoedd (yn Nhrefaldwyn yr awgryma digwyddiadau diweddarach) i ymdeithio yn ei erbyn. Roedd ymgyrch olaf y Tywysog Llywelyn wedi dechrau.

Tra roedd Lestrange wedi rhoi trefn ar yr hyn a oedd o'i le yn Nhrefaldwyn, adroddodd y Siryf Roger Springhose o Sir Amwythig i'r brenin ei bod yn amhosib casglu unrhyw incwm gan ddeiliaid Mortimer, gan nad oedd y Mers eto wedi'i ddofi. Mae'n bosib i hyn ac adroddiadau eraill am elyniaeth brodorion tiroedd Mortimer fod yn hwb i'r Tywysog Llywelyn. Yn y cyfamser roedd Luke Tany a Roger Clifford yr Ieuaf wedi goresgyn Ynys Môn yn enw'r brenin, er iddynt anufuddhau i'w gorchmynion ar 6 Tachwedd a chroesi i'r tir mawr. Ger Bangor fe orchfygwyd eu llu o 7 banred, rhyw 40 o farchogion a marchfilwyr cysylltiedig, yn cynrychioli hyd at 120 o waywffyn, wedi'u cefnogi gan 300 o yr arfog, a lladdwyd Clifford, Tany, William Audley, Peter de la Mare a llawer o'i farchogion a'i ringyllod ym Moel y Don. Awgryma cofnodion brenhinol hefyd bod hyd at 2,000 o filwyr troed ynghlwm â'r ymgyrch, er ei bod yn bosib i lawer o'r rhain fod wedi aros yn Ynys Môn. Rhoddodd y fuddugoliaeth yma obaith newydd i'r Cymry a phenderfynodd Llywelyn symud tua'r de a mynd â'r rhyfel i'r Mers Canol fel ag yr oedd wedi'i wneud mor aml o'r blaen. Yn y fan hon mae'r ffynonellau'n dechrau ymwahanu, ond gyda defnydd gofalus o'r cofnodion brenhinol a dadansoddiad synhwyrol o'r ffynonellau gellir rhoi adroddiad credadwy o'i ddyddiau olaf.

 

 

Isod i'r dde: olion wal ogleddol corff yr eglwys yn Abaty Cwmhir.

Ar 10 Rhagfyr gwersyllodd Llywelyn dros nos ger Abaty Cwmhir gyda 160 o wyr meirch a 7,000 o filwyr troed wedi ymdeithio i'r abaty o Inlanmake drwy dir Gwrtheyrnion. Ymddengys bod llawer yn yr ardal hon yn falch o dalu gwrogaeth iddo, ac yn ôl y sôn dwysawyd eu parodrwydd gan gais twyllodrus gan feibion Roger Mortimer yr Hynaf. Tra 'roedd Llywelyn wrth ei waith symudwyd yn ei erbyn gan holl benaduriaid y Mers, Roger Lestrange gyda'r garsiynau o Drefaldwyn a Chroesoswallt, John Giffard o Clifford a chwnstabl castell Llanfair ym Muallt, meibion Roger Mortimer yr Hynaf gan gynnwys Roger Mortimer yr Ieuaf o'r Waun a'i frodyr Edmund o Wigmore, William o Dinboeth a Geoffrey, ynghyd â Robert Mortimer o Richard's Castle, Gruffydd ap Gwenwynwyn o Bowys a'i ddau fab, Peter Corbet o Caus, Reginald fitz Peter o Flaenllyfni, Ralph Basset o Drayton, Simon Basset o Sapcote a'r Arglwydd Andrew Astley. Yn ôl un cronicl daeth Llywelyn yn gyntaf i ardal Trefaldwyn ac, a barnu yn ôl llythyr Lestrange y sonir amdano uchod, mae hyn yn wir. Â'r ffynhonnell yn ei blaen i ddatgan bod Lestrange, yn ddicllon am beidio â dinistrio llu Llywelyn pan oedd yn ei ardal, wedi cychwyn ar ei ôl, " wedi ymosod arno (Llywelyn) a thorri ei ben". Fel y gwelir isod ymddengys hwn yn adroddiad cryno iawn ond cywir o'r hyn a ddigwyddodd.

Wedi gadael Abaty Cwmhir ar fore dydd Gwener 11 Rhagfyr, cychwynodd Llywelyn tua'r de gan gymryd meddiant o Fuallt hyd at Llanganten ychydig i'r gorllewin o gastell Llanfair ym Muallt. Yna, yn ôl y Cronicl Cymreig 'anfonodd Llywelyn ei wyr a'i stiward i dderbyn gwrogaeth gwyr Brycheiniog, a gadawyd y tywysog gydag ychydig o wyr yn unig'. Ym mis Mehefin 1282, yn dilyn brwydr Llandeilo, ymddengys fod Reginald fitz Peter o Flaenllyfni a Merswyr eraill o'r farn na fuasai brodoraethau Brycheiniog yn parhau'n deyrngar yn dilyn gorchfygaeth drychinebus. Yn hyn o beth mae'n debyg eu bod yn gywir. Fodd bynnag, fe gollodd Llywelyn y dydd. Ar brynhawn 11 Rhagfyr mae'n debyg iddo ymwahanu rhag ei brif lu gyda chriw bychn o 17 neu 18 o wyr i gadw oed, ond ni wyddys gyda phwy. Yn ddiweddarach mae'r rhan fwyaf o groniclau'n gytûn i'r tywysog gael ei ddal gyda'i ychydig gymdeithion bonheddig, yn Aberedw yn ôl llên gwerin, nepell o Lanfair ym Muallt ar hyd afon Gwy. Mae'r Croniclau Cymreig yn datgan yn glir iddo gael ei ladd 'mewn brwydr' yng nghyffiniau Llanfair ym Muallt. Mae Croniclau Caer, yn unol â marwnad Gruffydd ab yr Ynad Coch ar farwolaeth Llywelyn, yn datganyn syml 'lladwyd Llywelyn ac ychydig o'i ddilynwyr yn ardal Buallt'.

Llun isod hawlfraint 1997 gan Vicky Newell

Mae'n ymddangos yn fwyaf tebyg i'r Merswyr, dan arweiniad Roger Lestrange a Roger Mortimer o'r Waun, a oedd ill ddau mae'n debyg wedi dod o Drefaldwyn, ddod ar draws y criw bychan hwn a'u lladd bron yn gyfrinachol wrth iddi nosi ddydd Gwener 11 Rhagfyr, tuag amser yr hwyrol weddi yn ôl cronicl Peterborough. Datganodd William Rishanger fod Llywelyn wedi dod i ardal Buallt gydag ychydig farchogion o'i fyddin yn unig. Yna daeth John Giffard ac Edmund Mortimer at y criw bychan 'heb ddim i ennyn drwgdybiaeth y tywysog na'i gynghreiriaid'. Ar hyn ymosodwyd ar y criw bychan ac fe'u lladdwyd, ac aethant i'w hangau 'fel wyn'! Yn ôl y Croniclau Cymreig "daeth Roger Mortimer (o'r Waun a Phencelli) a Gruffydd ap Gwenwynwyn, a chyda hwy lu'r brenin (byddin Trefaldwyn), ar eu traws yn ddirybudd ac yna fe laddwyd Llywelyn a'i wyr mwyaf blaenllaw ddydd Gwener 11 Rhagfyr". Roedd Thomas Wykes yn amlwg wedi clywed straeon tebyg ac ysgrifennodd am Edmund Mortimer a'i frawd yn denu Llywelyn i lawr i'w diroedd o fynyddoedd Eryri. Yna, tra roedd Llywelyn a chriw bychan yn 'crwydro o amgylch', daethant ar eu traws yn annisgwyl drwy gyfrwng 'clerc neu notari'n gweithredu fel ysbïwr' gan ladd Llywelyn a'i gynorthwywyr gyda'u cleddyfau. Yn fuan wedyn cafodd Roger Mortimer o'r Waun broblemau difrifol gydag Archesgob Caergaint, yn ymwneud yn rhannol â'i weithredoedd ym Muallt ble mae'n bosib iddo fod wedi lladd offeiriad, aelod o griw bychan Llywelyn. Yn ei lythyr cyfeiria'r archesgob at weision Edmund Mortimer a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn clywed Llywelyn yn galw am offeiriad cyn iddo gael ei ladd. Sonia hefyd am Roger Mortimer yn trefnu i gael gwared â gwisgoedd offeiriad ar adeg lladd y tywysog. Ymddengys o hyn i holl griw Llywelyn gael eu lladd, pa un ai'n lleugwyr ai peidio.

Mae cronicl Waverley, a oedd eto'n hynod lawn gwybodaeth am faterion Cymreig, yn awgrymu i Lywelyn gael ei ddal gan Edmund Mortimer a llawer o Ferswyr ac yna iddo gael ei ddienyddio cyn i lawer o Gymry gael eu lladd mewn cyrch neu ymosodiad. O hwn a chroniclau eraill gallwn gasglu i brif fyddin y Mers, wedi lladd Llywelyn, symud yn erbyn y fyddin Gymreig, a oedd yn awr yn ddiarweinydd, ar amser penodedig, ar doriad dydd fore trannoeth yn ôl pob tebyg, gan ymosod arnynt a pheri cyflafan. Wedi'r ymladd, yn ôl Roger Lestrange, dyn a oedd gynt wedi cyfrif byddinoedd i'w frenin, gorweddai 3,000 o Gymry a'r holl farchfilwyr Cymreig yn gelain yn y maes, heb i'w luoedd ei hun fod wedi dioddef yr un golled! Dim ond un cronicl sy'n datgan na ddioddefodd y Merswyr ddim colledion wrth orchfygu byddin Llywelyn ac nid yw'n rhoi ond un llinell i'r holl fater ac mae'n rhoi Edmund Mortimer fel arweinydd y Lloegrwys ar ddiwrnod torri pen Llywelyn. Mae Cronicl Dunstable, wedi'i lunio ger Luton yn Swydd Rhydwely (Bedfordshire), yn datgan i dros 2,000 o Gymry a'r holl farchfilwyr gael eu lladd ynghyd â thri o benaduriaid Llywelyn. Mae enwau'r rhan fwyaf o'r rhai a fu farw yn ystod ymgyrch olaf Llywelyn bellach ar goll, ond cofnoda Cronicl Peterborough bod Almafan, arglwydd Lampadevar, Rhys ap Gruffydd, distain y tywysog, a Llywelyn Fychan o Bromfield ymysg y rhai a laddwyd ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw. Mae hyn yn ei dro yn ategu adroddiad Dunstable. Mewn gwirionedd fe ategir yr adroddiadau hyn gan ffynhonnell mor sicr ag Archesgob Caergaint ei hun. Rywdro rhwng 12 ac 15 Rhagfyr ysgrifennodd yr Archesgob John Pecham, a oedd yn Pembridge rhyw 25 milltir i'r dwyrain o Lanfair ym Muallt, lythyr a soniai am Lywelyn yn gwneud cyrchoedd ar diroedd y brenin ac yn denu'r trigolion lleol i'w achos. Yn ddi-os hwn oedd y Mers Canol. "Serch hynny y tywysog a laddwyd, y cyntaf o'i fyddin ei hun, mewn marwolaeth ddiurddas drwy deulu'r Arglwydd Edmund Mortimer, mab yr Arglwydd Roger Mortimer; a chafodd ei holl fyddin eu lladd neu eu hymlid drwy rannau o Drefaldwyn ar 11 Rhagfyr". Mae'r 'rhannau o Drefaldwyn' yn amlwg yn dangos bod Llanfair ym Muallt yn rhan o reolaeth Trefaldwyn fel yr awgrymwyd gan apwyntiad Roger Mortimer yn gapten cyntaf arno.

Isod: beddfaen Llywelyn ap Gruffydd yn Abaty Cwmhir

Ni wyddys pwy'n union laddodd Lywelyn, ond mae rhai croniclau'n cyhuddo Stephen Frankton, 'canwriad' Ellesmere, er mai ychydig a elwodd o hynny. Mae eraill, fel cerddi Robert Mannyng o Bourne, yn enwi Sir Robert Brody fel y marchog a fu'n gyfrifol am ddienyddio Llywelyn. "Sir Robert Body a knight his suerd best bote, Doun sone he he light and Leulyn hede of smote". Yn sicr fe elwai Sir Robert yn ffafr y brenin a Roger Lestrange, ac yn ogystal mae'n hynod debyg ei fod yn un o warchodlu Trefaldwyn, yn hannu o dref Stockton yn arglwyddiaeth freiniol Trefaldwyn. Yn ddiweddarach gwasanaethodd Body gyda Lestrange yng ngwarchae mis Ebrill 1283 ar Gastell y Bere. Yna ym 1284 rhoddwyd iddo bedwar firgat ym maenor Ellesmere gan Roger Lestrange ac ym 1291 fe aeth dramor gyda'i arglwydd. Mae'n debyg bod Cronicl Dunstable yn rhyfeddol o lawn o wybodaeth ynghylch y trychineb, yn ogystal â materion eraill yn hanes Cymru. Yn ôl y cronicl hwn daeth Llywelyn i lawr o Eryri i'r tiroedd a oedd ym meddiant Roger Mortimer i dderbyn gwrogaeth y gwyr a oedd yno ar gais twyllodrus meibion Roger. Wedi iddo gyrraedd Abaty Cwmhir symudodd gwarchodluoedd brenhinol Trefaldwyn a Chroesoswallt gyda holl farwniaid y Mers yn ei erbyn a'i ladd. Ar ymyl tudalen mewn llawysgrif arall o'r cyfnod wedi'i chadw yn awr yn y Llyfrgell Brydeinig fel Cotton Nero Ms. D II, fo.182, mae darlun cain o wr mewn arfwisg mael yn penlinio â'i ddwylo wedi'u plethu yn aros i filwr y tu ôl iddo dorri ei ben. Ac felly y bu farw Llywelyn, unig Dywysog Cymru a gafodd ei gydnabod yn gyhoeddus.

O'r fan hon mae'r hanes unwaith eto'n eithaf clir. Mae croniclau Bermondsey yn datgan yn syml i Llywelyn gael ei ddienyddio ac i Roger Mortimer o'r Waun gychwyn am Rhuddlan gyda phen Llywelyn yn dlws arswydus. Fe'i cyflwynodd i'r brenin diolchgar, Edward, a'i anfonodd ar unwaith i'w arddangos ar Dwr Llundain gan beri rhialtwch mawr ymysg y trigolion. Rhoddodd Roger Lestrange, cadlywydd byddin Trefaldwyn, yr unig ddisgrifiad hysbys o'r frwydr ac mae ei eiriau ef hyd yn oedd wedi'u cymylu gan anghrediniaeth. Datganodd yn gryno "ymladdodd y lluoedd o dan rheolaeth Roger gyda Llywelyn ap Gruffydd yn nhir Buallt ddydd Gwener, 11 Rhagfyr, mae Llywelyn yn farw, ei fyddin wedi'i gorchfygu, a holl flodau ei fyddin yn gelain, fel y tystia cludwr y llythyr hwn". Ar 17 Rhagfyr ysgrifennodd Archesgob Caergaint dri llythyr. Yn y cyntaf fe hysbysodd Lady Matilda Longespey o Clifford, wyres y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth, wrth ymateb i'w chais, na ellid maddau esgymuniad ei chefnder, yr ymadawedig Tywysog Llywelyn o Gymry, os nad oedd wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd. O ganlyniad gofynnodd i Matilda a'i chyfeillion i beri i 'unrhyw rai a fu'n bresennol ar adeg ei farwolaeth' eu cyflwyno'u hunain i'r archesgob a 'dadlau'u hachos'. Yn yr ail ysgrifennodd at y brenin yn ei hysbysu "bod y rhai a oedd yn bresennol ar adeg marw Llywelyn wedi darganfod, ynghudd ar ei gorff, rai pethau bychain yr ydym ni wedi eu gweld. Ymysg eraill yr oedd llythyr bradwrus, yn cuddio y tu ôl i enwau ffug ... mae'r llythyr ei hun gan Edmund de Mortimer, gyda chyfrin sêl Llywelyn, a chwi a gewch y pethau hyn pan fynnoch. Mae'r Foneddiges Maud Langespye wedi erfyn arnom i faddau pechodau Llywelyn, fel y gellir ei gladdu mewn tir cysegredig, ac rydym wedi anfon gair ati na wnaem ddim oni ellid profi iddo ddangos gwir edifeirwch cyn ei farwolaeth. Dywedodd Edmund de Mortimer wrthyf ei fod wedi clywed gan ei weision, a oedd yn bresennol ar adeg ei farwolaeth, iddo ofyn am offeiriad cyn marw; ond heb fod yn sicr ni wnawn ddim. Yn ogystal, Arglwydd, gwybyddwch i fynach gwyn (Sistersiad o Gwmhir mae'n debyg) ganu offeren iddo ar yr union ddiwrnod y'i lladdwyd, ac mae gan f'Arglwydd Roger de Mortimer yr urddwisgoedd." Yn y trydydd dywedodd wrth Esgob Robert o Bath a Wells am y mater gyda'r amod ei fod yn dymuno amddiffyn y brenin rhag cynllwynion ei elynion. O'r herwydd anfondodd at yr esgob "yn amgaëedig gyda'r llythyr hwn, rhyw atodiad, wedi'i fynegi mewn geiriau astrus ac enwau ffug, y mae gan Edmund Mortimer gopi ohono, ac a ddarganfuwyd yn llodrau Llywelyn, cyn dywysog Cymru, ynghyd â'i sêl fechan, y mae'r archesgob yn ei chadw'n ddiogel i'r brenin. O'r atodiad hwn gall yr esgob ddyfalu nad yw rhai penaduriaid, cymdogion i'r Cymry, naill ai Merswyr neu eraill, yn rhy deyrngar i'r brenin, ac felly dylid rhybuddio'r brenin fel na ddaw i unrhyw berygl". Ymddengys ystyr hyn yn gwbl glir, hyd yn oed os oes dryswch ynghylch pwy, os rhywun, sydd berchen y ddogfen fradwrus wreiddiol. Roedd y Merswyr, dan arweiniad meibion Roger Mortimer mae'n debyg, wedi gwneud eu gwaith yn rhy dda!

Roedd hyd yn oed cyfoeswyr mewn dryswch am yr hyn a ddigwyddodd y noson honno ym mis Rhagfyr. Ni wnaeth y brenin unrhyw ddatganiad cyhoeddus am farwolaeth ei elyn ac mae'n annhebygol y byddai'r rhai a oedd wedi denu Llywelyn i'w farwolaeth cynamserol wedi gweiddi am eu rhan yn y weithred. Mae nifer o groniclau'n cynnwys adroddiadau cryno a dryslyd o'r diwrnod. Mae'r rhan fwyaf yn sôn am frad a dim ond un sy'n rhoi unrhyw fanylion am y frwydr, nad oedd yn ddim mwy nag ailadroddiad o frwydr Stirling Bridge ble y cariodd y Cymro William Wallace y dydd! Mae'r union fanynlion am yr hyn a ddiwgwyddodd ym Muallt bellach wedi'u cymylu gan dreiglad amser ac anwybodaeth cyfoeswyr, ond os rhywbeth, ymddengys natur marwolaeth Llywelyn, a'r rhesymau drosti, yn gliriach yn awr nag yr oeddynt ar y pryd. Mae'n addas, efallai, gorffen gyda datganiad o gronicl cyfoes Abaty Hailes, "dywedir petai Llywelyn wedi byw dau ddiwrnod eto y byddai pawb a siaradai Gymraeg wedi troi at ei achos".

Paul M. Remfry

 

Traethodau pellach gan Paul M Remfry
Yn l i brif dudalen Llywelyn ap Gruffydd
Yn i'r Mynegai Cestyll, data Cestyll, neu'r Mapiau Lleoli Cestyll
Yn i fwydlen y brif dudalen

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Paul M. Remfry and the Castles of Wales Website