Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Abaty Ystrad Fflur

1 filltir i'r de-ddwyrain o Bontrhydfendigaid, Ceredigion, Canolbarth Cymru

Lluniau hawlfraint 2002 Jeffrey L. Thomas.

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Arweinlyfr Cadw

Lleolwyd abaty cyntaf Ystrad Fflur, a sefydlwyd i'r Sistersiaid ym 1164 gan y Norman Robert Fitzstephen, ryw 2 filltir o'r safle presennol ar lan Afon Fflur sy'n rhoi ei henw i Ystrad Fflur (Dyffryn Fflur, neu Flodau). Roedd yn gangen o'r abaty Sistersiaidd yn Hendy-gwyn ar Daf, ac o'r fan honno y byddai'r gymuned gyntaf o fynaich wedi dod. Ni wyddom pam na phryd y symudwyd yr abaty i'w safle presennol ar lan afon Teifi, ond mae'n debyg i wleidyddiaeth chwarae rhan fawr, gan i Rhys ap Gruffydd, tywysog y Deheubarth, oresgyn deiliadaethau Normanaidd yng Ngheredigion a chipio rheolaeth ar yr ardal ym 1166. Roedd y Sistersiaid, a oedd yn ymroddedig i fywyd o symlrwydd gwledig, yn llwyddiannus iawn yng Nghymru, ac roedd Rhys yn falch o gael mabwysiadu'r sefydliad newydd. Yn wir, yn ddiweddarach fe'i cydnabyddwyd fel sylfaenydd Ystrad Fflur, y teimlai'n annwyl iawn tuag ato.

Mae'n debyg i'r gwaith o adeiladu'r eglwys newydd ddechrau ym 1184. Parhi'r abaty i dderbyn cefnogaeth gan ddisgynyddion tywysogaidd Rhys, a roddodd diroedd eang i'r abaty yn y porfeydd ffrwythlon o amgylch, ac ymhellach draw yng Nghaerfyrddin a Phowys. Cynhyrchai'r tiroedd hyn, a ddefnyddid ar gyfer y preiddiau mawr o ddefaid yr oedd y Sistersiaid yn enwog amdanynt, lawer o'r incwm ar gyfer rhedeg yr abaty. Efallai mai oherwydd y nawdd hwn y daeth yr abaty, gyda'i gyfres o abadau Cymreig, yn enwog fel canolfan ar gyfer ysgolheictod Cymreig. Mae'n bosib mai yma yr ysgrifennwyd y croniclau Cymreig a adnabyddir fel Brut y Tywysogion. Cofnodant y cysylltiad agos rhwng yr abaty a thy'r Deheubarth, a'r ffaith i lawer o'i dywysogion gael eu tywys i'r abaty i'w claddu tua diwedd y 13eg ganrif. Roedd gan yr abaty ddylanwad diwylliannol enfawr yng Nghymru'r oesoedd canol a hyd yn oed heddiw fe gysylltir ei enw ag ysgolheictod Cymreig.

 

Nid oedd Ystrad Fflur, fodd bynnag, yn ddiogel rhag dinistr rhyfel a damwain. Ym 1212, bygythiodd y Brenin John ddinistrio'r abaty, gan iddo ei ystyried yn sefydliad Cymreig pleidiol 'sy'n cynnal ein gelynion', er i drafferthion mewn mannau eraill ei dynnu rhag y dasg. Ym 1285 fe ddifrodwyd yr eglwys gan fellt, a dioddefodd yr adeilad ymhellach mewn brwydro rhwng y Cymry a'r Saeson ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Fe gipiwyd yr abaty gan y fyddin yn ystod rhyfel annibyniaeth Owain Glyndwr. Wedi'r Diddymiad fe adawyd yr adeiladau mynachaidd. Fe'u cloddiwyd yn y 19eg ganrif gan Stephen Williams, dyn arbennig a syrthiodd mewn cariad 'r safle tra'n gweithio fel peiriannydd ar adeiladu'r rheilffordd a arferai redeg ar hyd y dyffryn cyfagos.

Fe adlewyrchir llwyddiant celfyddydol Ystrad Fflur o hyd mewn rhai olion nodedig ymysg yr adfeilion. Un yw drws pengrwn gorllewinol yr eglwys sydd wedi'i arddurno'n gywrain. Yn wreiddiol safai'r drws haeddiannol enwog rhwng pr o ffenestri pigfain, ond dim ond un sy'n bod heddiw. Fe adeiladwyd yr eglwys groesffurf yn bennaf tua diwedd y 12ed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif. Mae ganddi gorff hir gyda saith cilfach a dwy eil wedi'u rhannu rhagddo gan furiau sy'n cysylltu'r pileri, ond gyda drysau yn y dwyrain a'r gorllewin. Adeiladwyd cr y mynaich, ble y cenid gwasanaethau mynachaidd, ar ddiwedd y 14eg ganrif, ac mae'n bosib mai ychwanegiad o'r oesoedd canol neu hyd yn oed wedi'r oesoedd canol oedd y basn grisiog suddedig yng nghanol y croesiad.

Tua'r dwyrain mae tair gris yn codi o lawr y seintwar, gyda'r uwch allor yn y canol. Gorwedda dau gapel bychan yn erbyn wal ddwyreiniol y seintwar, a estynwyd yng nghanol y 13eg ganrif. Mae'r trefniant mewnol yma'n eithaf hwyr: mae'n debyg i lawr gwreiddiol y 13eg ganrif fod yn wastad a lleolwyd yr uwch allor yn erbyn y wal ddwyreiniol. Roedd cyfres o dri chapel yn y naill adain, ac mae eu lloriau grisiog wedi'u gorchuddio theils addurnedig moethus sy'n ein hatgoffa'n ogoneddus o sut yr edrychai'r eglwys yn wreiddiol. Mae gan y teils batrwm endoredig wedi'i wydro neu'i fewnosod, gydag amrywiaeth o ddyfeisiau, gan gynnwys 'y dyn gyda'r drych' sydd, mae'n debyg, yn cynrychioli balchder, griffon, patrymau o flodau, dail a chroesau arddulliedig, a thariannau herodrol. Dyddia'r palmentydd yn l i'r 14eg ganrif ac mae'r rhai ar yr ochr ddeheuol wedi'u gorchuddio tho modern i'w gwarchod. Yn wreiddiol byddai llawr y cr a'r eglwys i'r dwyrain ohono wedi'i orchuddio theils, ac erys adrannau llai o deils plaen mewn rhannau o'r eglwys. Mae'n debyg mai lloriau o lechi lleol oedd yn y corff a'r eiliau a oedd yn llai pwysig.

Yn wal ddeheuol yr adain ddeheuol, arweiniai drws i'r gysegrfa gul. Roedd y cabidyldy i'r de, yn ei ffurf gwreiddiol yng nghanol y 13eg ganrif, yn adeilad eithaf mawr, ond hanerwyd ei faint yn y 14eg ganrif pan ail-adeiladwyd ef ar lefel uwch, efallai'n dilyn dinistr a achoswyd yn ystod chwyldro Cymreig 1294. Erys un beddfaen addurnedig yn y llawr.

Gorwedd beddau'r tywysogion Cymreig y tu allan i'r eglwys, i'r dwyrain o'r adain ddeheuol. Mae'n rhaid bod eu cerrig beddau addurnedig a'u beddfeini'n nodi beddau dau o feibion yr Arglwydd Rhys. Yn l traddodiad, fe gladdwyd Dafydd ap Gwilym, bardd mwyaf yr oesoedd canol yng Nghymru, o fewn cyffiniau'r abaty, ac mae carreg goffa iddo'n sefyll yn yr adain ogleddol.

Nid erys dim heddiw o'r ystafell gysgu, y ffreutur na'r gweithdai a fyddai, mae'n debyg, wedi'u gosod o amgylch y cloestr, er bod sylfaeni hanner gogleddol wal y cloestr yn sefyll o hyd. Ail-adeiladwyd y cloestr yn y 15ed ganrif, ac yn y wal ogleddol mae cilfach amlochrog, a ddefnyddiwyd fel darllenfa ar gyfer y Colasiwn neu ddarlleniad cyn y Cwmplin (offeren olaf y dydd mewn mynachlog), nodwedd anghyffredin a diddorol. Byddai'r rhes orllewinol, nad erys ond darnau ohoni, wedi bod yn gartref i'r brodyr lleyg, fel arfer brodorion a recriwtiwyd gan y Sistersiaid fel llafurwyr yn y fynachlog. Yno fe gadwyd y brodyr iseldras ar wahan i fynaich y cr a byddent wedi defnyddio corff yr eglwys ar gyfer eu gwasanaethau.

Yn yr hen ysgol wrth y fynedfa i'r safle mae arddangosfa fechan yn cynnwys rhai o'r arteffactau a ddarganfyddwyd wrth gloddio'r abaty. Fe garai'r Sistersiaid symlrwydd, ond ni olyga hyn bod eu heglwysi'n amddifad o unrhyw addurn. Mae'r gwaith carreg o'r drysau, y ffenestri a'r to yn ein galluogi i ddychmygu peth o'r addurn sydd ar goll yn awr o adfeilion yr abaty.

 

Fe ddaw'r cyfraniad hwn gan Richard Hartnup,o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Llwybrau'r mynaich o Ystrad Fflur Sefydlwyd mynachlog Sistersiaidd Ystrad Fflur ym 1164 gan fynaich o Hendy-gwyn ar Daf ar dir a roddwyd gan Robert Fitzstephen, arglwydd Normanaidd Pennard. Fe'i hadeiladwyd ar lannau Afon Fflur, llednant i afon Teifi, sy'n codi ar Garn Gron, allgraig orllewinol o Fynyddoedd Cambria. Saif fferm yr Hen Abaty ar y safle gwreiddiol heddiw, i'r dwyrain o'r ln fawr, tua 2 km i'r de-orllewin o Bontrhydfendigaid.

Fe lwyddodd yr Arglwydd Rhys, Rhys ap Gryffudd, i ddisodli penargwlyddi Normanaidd Dyfed, yn rhannol drwy eu hannog i droi eu sylw at wladychu Iwerddon. Ymhen amser, o ganlyniad i'w hawliadau egniol (a thrafferthus) dros dir ei gyndadau, apwyntiwyd Rhys yn Ustus De Cymru, gan roi iddo hawl dros y tiroedd a oedd mewn gwirionedd wedi'u goresgyn. Rhoddodd Rhys fwy o dir i'r Sistersiaid ac ym 1184 fe symudwyd yr abaty i'w safle presennol ar lannau afon Teifi. Cymerodd abaty mwyaf Cymru 50 mlynedd i'w adeiladu.

Yn y cyfnod hwnnw roedd mynachlogydd yn ganolfannu pwysig ar gyfer dysg a datblygiad. Etifeddodd y mynaich rl y cenhadon Cristnogol cynnar a'r Saint Celtaidd wrth hybu datblygiadau amaethyddol a gwthio amaethu i'r tiroedd uchel. Am 200 mlynedd bu Ystrad Fflur yn ganolfan bwysig, a daeth y dyffryn tawel yn ganolbwynt prysur. Mabwysiadwyd amaethyddiaeth fugeiliol yr ardal yn barod iawn gan y mynaich a fu'n weithgar yn clirio a gwella tir a magu defaid. Parhasant 'r arfer hirhoedlog o drawstrefa - hynny yw symud preiddiau i borfa uchel neu ffridd yn yr haf, ble y trigai merched a phlant y teuluoedd mewn hafod tra'n bugeilio. Hendre oedd enw prif gartref y teulu. Pery'r termau hyn yn enwau nifer fawr o ffermydd a chartrefi o hyd.

 

Datblygwyd rhwydweithiau cyfathrebu yn y cyfnod yma, ac yn hwyrach daeth lonydd y porthmyn rhwng llawr gwlad a'r ffridd yn rhan o'r rhwydweithiau hynod ddiddorol o lwybrau a thraciau sy'n croesi'r wlad heddiw.

Hyd heddiw fe welir adfeilion llawer o'r trifgannau mynyddig hyn, tra bod tir amaeth yn ymestyn ymhell i fyny'r dyffrynoedd / cymoedd. Ar hyd y traciau mynyddig fe amgylchynnir olion corlannau gan borfa las, yn elwa o hyd o effaith gwrteithiol tail defaid a gweddillion tail gwartheg. Fe hybwyd yr angen am gyfathrebu ymhellach gan fasnach yn codi o weithgaredd y mynaich a'r rhai a weithiai ar eu tiroedd. Roedd yn rhaid i'r brodyr ymweld 'u heiddio anghysbell, ac roedd Ystrad Fflur yn rhan o deithiau nifer fawr o bererinion. (Mae sn bod cwpan bren yr honnid mai'r Greal Sanctaidd ydoedd yn cael ei chadw yn yr Abaty a'i bod yn denu llawer o ymwelwyr).

MMae Richard Colyer wedi olrain nifer o'r llwybrau hyn a ddefnyddiwyd gan fasnachwyr, pererinion a mynaich ac mae'n cynnwys map yn ei lyfr "Roads and Trackways of Wales" (Moorland Press, 1984). Dylanwadodd datblygiad y rhwydwaith gwledig hwn ar ymgatrefu yn y cymoedd, yn enwedig drwy hybu sefydlu ffermydd yn y tiroedd uchel.

Mae traddodiad hir o hen ffordd, Llwybr y Mynaich, o Ffair Rhos, safle ffair neu farchnad bwysig, i Abaty Cwmhir, rhyw 25 milltir i ffwrdd ym Maesyfed. Gellir ei holrain ar ei hyd ar fapiau'r Adran Fapio (Ordnance Survey), gyda rhai rhannau wedi'u cofnodi fel "Hen Ffordd". Datblygodd nifer o hen draciau, rhai mae'n debyg yn cael eu defnyddio gan y mynaich, ac yn sicr yn hwyrach gan borthmyn, yn cwrdd Llwybr y Mynaich o gyfeiriadau gwahanol, gan i'r hen ln ffurfio llwybr defnyddiol ar draws y bryniau gwylltion i mewn i Faesyfed, ac ymlaen i gyfeiriad canolbarth Lloegr. Mae un trac yn gadael cwm Mwyro tua dwy filltir i'r dwyrain o'r Abaty, o fferm Tyncwm, ac yn ymuno Llwybr y Mynaich gerllaw fferm Claerwen.

 

Yn l i'r mynegai abatai

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Jeffrey L. Thomas