Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Owain Lawgoch

... yr arwr olaf?

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Jeff Thomas 1996

Roedd Llywelyn Fawr yn dad i ddau fab uchelgeisiol, a oedd ill dau i fod ynghlwm â brwydro dynastig y 13eg ganrif rhwng Cymru a Lloegr. Roedd Gruffydd ap Llywelyn, yr hynaf, yn fab naturiol i'w dad, tra bod Dafydd yn fab i Siwan, gwraig Llywelyn, a oedd yn ferch naturiol i'r Brenin John. Mae'n debyg fod y ddau fab yn benderfynol o olynu eu tad a mynd ymlaen â brwydr eu gwlad yn erbyn eu darpar goncwerwyr Normanaidd.

Pan fu farw Llywelyn ym 1240, yn groes i ddeddf a thraddodiad Cymru, fe drosglwyddwyd Gwynedd i'w fab cyfreithlon Dafydd, yn hytrach na chael ei rhannu'n gyfartal rhwng Dafydd a'i frawd Gruffydd. Tybir i Llywelyn gredu fod yr arfer o ddosrannu etifeddiant yn fygythiad i barhad Gwynedd, ac fe gymerodd gamau anghyffredin i sicrhau cydnabod Dafydd fel ei unig etifedd. O ganlyniad i hyn, treuliodd Gruffydd lawer o'i fywyd yn garcharor i'w dad, ac yna i'w frawd ac yn hwyrach i frenin Lloegr, hyd ei farwolaeth trasig wrth geisio dianc o Dwr Llundain ym 1244 (ar y dde).

Er gwaethaf gofalon Llywelyn, roedd teyrnasiad Dafydd yn druenus o fyr a bu farw yn ddietifedd ym 1246. Yn fuan roedd y rhan fwyaf o Gymru yn ôl dan reolaeth brenin Lloegr a'i farwniaid. Er gwaethaf yr anhawster aruthrol hwn, ymhen llai na deng mlynedd, roedd Llywelyn, mab Gruffydd, a adnabyddir fel Llywelyn ein Llyw Olaf, wedi llwyddo i adennill brenhinlin Gwynedd, yn ennill cydnabyddiaeth ddigynsail fel 'Tywysog Cymru' cyn ei gwymp a'i farwolaeth trasig ym 1282. Gyda'i farwolaeth ef, a marwolaeth ei frawd hyn, Owain, yr un flwyddyn, a'i frawd iau, Dafydd, y flwyddyn ganlynol, darfu rheolaeth Ty Gwynedd dros y rhan fwyaf o ogledd Cymru wedi bron i 500 mlynedd. Roedd llinach dywysogaidd Gwynedd wedi dod i ben, wedi ei dileu am byth gan y brenin didostur Edward I. Tybed?

Ychydig a wyddys am frawd ieuengaf Llywelyn, Rhodri ap Gruffydd. Mae'n debyg na chwaraeodd unrhyw ran ym mrwydrau dynastig y 13eg ganrif a threuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd mewn heddwch a dinodedd cymharol y tu allan i Gymru, yn marw, yn ôl y sôn, yn ei blasty Seisnig tua 1315. Ac eto, un o'i ddisgynyddion ef oedd i hawlio teitl 'Tywysog Cymru' i Wynedd am y tro olaf. Y person hwnnw oedd wyr Rhodri, Owain Lawgoch.

Yn cael ei adnabod fel Owain Lawgoch, ac fel Yvain de Galles yn Ffrainc, ganwyd a magwyd Owain ap Thomas ap Rhodri, fel ei dad, yn Lloegr a chanddo ddim cysylltiadau uniongyrchol â Chymru. Yn wr ifanc cafodd ei hyfforddi'n filwr yn Ffrainc ac enillodd enwogrwydd fel arweinydd lliwgar criw o hurfilwyr, y recriwtiwyd llawer ohonynt yng Nhymru. Arweiniodd ymgyrchoedd milwrol llwyddiannus yn Sbaen a Ffrainc, ble yr enillodd fri aruthrol.

Wedi'i amddifadu o'i diroedd yn Lloegr ym 1369, datganodd hawl ar etifeddiaeth Gwynedd drwy linach Llywelyn Fawr a'i gysylltiad teuluol â Llywelyn ein Llyw Olaf. Mae'n debyg i frenin Ffrainc, Charles V, weld rhyw werth mewn cefnogi hawliadau Owain, ar y wyneb o leiaf, gan gytuno yn y lle cyntaf i ariannu llynges yr oedd Owain yn paratoi i'w lansio ar gyfer ymgyrch yng Nghymru ym 1372. Fodd bynnag, ar y funud olaf galwyd yr arweinydd gwrthryfelgar yn ôl, arwydd clir, efallai, fod Owain yn fwy o wystl gwleidyddol nag o fygythiad i reolaeth Seisnig yng Nghymru.

Er nad oedd y Ffrancwyr efallai'n gwbl o ddifrif ynglyn â chefnogi Owain roedd bygythiad tybiedig y darpar olynydd hwn i Dy Gwynedd yn ddigon real. Yng Nhymru roedd crybwyll ei enw yn calonogi llawer a goleddai syniadau am wrthryfel yn erbyn eu tra-arglwyddi Seisnig, tra yn Llundain ystyriai'r goron y bygythiad yn ddigon real i warantu cymryd camau rhwystrol yn ei erbyn.

Bum mlynedd ar ôl ei ymosodiad aflwyddiannus cyntaf roedd Owain unwaith eto'n cynllunio i godi byddin ar gyfer ymgyrch yng Nhymru. Ond y tro hwn, anfonwyd John Lamb, Albanwr yn nhâl y Saeson, i ddienyddio'r arweinydd gwrthryfelgar. Fe ymdreiddiodd hurfilwyr Owain a'i lofruddio yn ystod gwarchae Mortagne-sur-Mer (Ffrainc) ym 1378 (wedi'i bortreadu mewn llawysgrif ganoloesol ar y dde). Ac felly darfu gyrfa liwgar disgynnydd uniongyrchol olaf Llywelyn Fawr i hawlio teyrnas hynafol Gwynedd.

Mae arwyddocad Owain Lawgoch yn destun trafod i haneswyr a chreda'r rhan fwyaf nad oedd yn wir fygythiad i reolaeth Seisnig yng Nghymru. Yn ôl rhai nid oedd yn ddim ond gwrthryfelwr mentrus a welodd gyfle, drwy hawlio etifeddiaeth ei daid, i hyrwyddo'i fuddiannau ei hun. Serch hynny, tra bu byw, fe gynigiodd lygedyn o obaith i boblogaeth Cymru a oedd yn dioddef gorthrwm creulon yn ystod y broses o gymhathu Seisnig. Efallai mai ei brif etifeddiaeth oedd iddo geisio codi baner gwrthryfel o gwbl, flynyddoedd wedi i lawer gymryd yn ganiataol nad oedd y fath wrthryfel bellach yn bosibl yng Nghymru. Yn hynny o beth fe gadwodd fflam gwrthsafiad Cymreig ynghynn drwy gydol blynyddoedd caled y 14eg ganrif, yn trosglwyddo'r ffagl, genhedlaeth yn ddiweddarach, i'r dyn sydd, efallai, yr enwocaf o blith gwladgarwyr Cymreig, Owain Glyndwr.

 

Yn ôl i'r mynegai cestyll
Yn ôl i fwydlen y brif dudalen

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas