Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Hywel Dda

Brenin Cymru

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Davies 1990; Walker 1990

Erbyn y flwyddyn 950 Dinefwr oedd y prif lys o ble y llywodraethai Hywel Dda (a bortreadir ar y dde mewn llawysgrif o'r 13eg ganrif) ran helaeth o Gymru gan gynnwys y de-ddwyrain a adnabyddid fel y Deheubarth. Ei gamp fwyaf oedd creu cyfundrefn gyfreithiol unffurf gyntaf y wlad. Yn dilyn marwolaeth eu tad, Cadell, tua 909 rhannodd Hywel a'i frodyr diroedd yng Ngheredigion ac Ystrad Tywi. Unodd Hywel eu hetifeddiaeth yn 920 wedi marwolaeth ei frawd a daeth Gwynedd i'w feddiant yn dilyn marwolaeth Idwal Foel yn 942. Roedd yn briod ag Elen merch Llywarch o Ddyfed a phan fu farw Llywarch yn 904 fe feddiannodd deyrnas y de. O safbwynt yr Oesoedd Tywyll roedd yn dywysog pwerus ac mae'n bosib i genedlaethau diweddarach fenthyg ei awdurdod personol i atgyfnerthu eu grym eu hunain.

Fel ei daid, Rhodri Fawr, cafodd Hywel enw dodi gan genhedlaeth ddiweddarach. Daeth i gael ei adnabod fel Hywel Dda, er mai camgymeriad fyddai ystyried y daioni hwnnw i fod yn ddiniwed a dilychwyn. Yn oes Hywel hanfod gwladweinydd oedd anhrugarogrwydd, nodwedd a feddai Hywel arni os yw'n wir mai ef a orchmynnodd lofruddiaeth Llywarch o Ddyfed fel y mae rhai wedi ei honni.

Er gwaethaf diffyg tystiolaeth gyfoes nid oes yr un rheswm dros wrthod y traddodiad mai Hywel oedd yn gyfrifol am gydgyfnerthu Cyfreithiau Cymru. Ymhlith cydoeswyr Hywel roedd arweinwyr a ddaeth yn enwog fel deddfrydwyr. Cyfraith Hywel oedd cyfraith gwlad: rhoddai ei enw awdurdod i'r gyfraith, yn debyg i'r hyn a roddwyd i gyfraith y Mers gan y Brenin Offa neu i gyfraith Wessex (a rhan helaeth o Loegr) gan y Brenin Alfred. Mae'n bur debyg ei fod yn gwybod amdanynt: roedd yn ymwelydd rheolaidd 'r llys Seisnig ac yn 928, ym mlodau'i ddyndod, aeth ar bererindod i Rufain. Mewn canrifoedd diweddarach fe honnid iddo gymryd copau o'i gyfraith i Rufain, lle y'u bendithiwyd gan y Pab. Cyfrannodd traddodiad hefyd fanylion am amgylchiadau llunio a chyhoeddi'r deddfau.

Mae'n debyg mai'r angen i ddod ag unffurfiaeth i'w wahanol diriogaethau a ysgogodd Hywel i gyfundrefnu'r gyfraith. Fe lwyddodd hefyd i amddiffyn ei diriogaethau gan nad oes yr un cofnod iddynt gael eu hysbeilio gan y Llychlynwyr (Vikings) yn ystod ei deyrnasiad. Nid ymosododd y Saeson arnynt ychwaith. Parhaodd Hywel 'r berthynas agos Lloegr a gychwynnodd ei dad-yng-nghyfraith, Llywarch o Ddyfed, ac eto mae'n annhebygol iddo werthfawrogi'r gostyngiad yn ei statws a'r galw am wrogaeth helaeth a ddeuai yn sgil y cysylltiad hwn theyrnas L loegr. Roedd yn cydnabod ffeithiau grym - grym a ddifaodd deyrnas Frythoneg Cernyw yn ystod ei oes ac a achosodd farwolaeth ei gefnder, Idwal o Wynedd.

Fe oroesodd teyrnas y Deheubarth wedi ei farwolaeth ac yn 950 fe'i trosglwyddwyd i'w fab Owain. Dychwelodd Gwynedd a Phowys i linach Idwal ap Anarawd tra y parhai Morgannwg dan reolaeth ei brenhinoedd ei hun. Er i'r undeb rhwng Gwynedd, Powys a'r Deheubarth gael ei dorri, dim ond tri brenin oedd yng Nghymru ar l 950, o'i gymharu dwywaith y nifer honno ddwy ganrif ynghynt.

 

Llinach Hywel Dda ac arweinwyr y Deheubarth (gweler Gwynedd hefyd)
Yn l i'r mynegai cestyll
Yn l i fwydlen y brif dudalen

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Jeffrey L. Thomas