Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Rhodri Fawr

Brenin Cymru

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Walker 1990; Davies 1990

Yn l traddodiad, Rhodri Fawr - Brenin Cymru yn y 9ed ganrif - a adeiladodd gastell cyntaf Dinefwr (ar y dde). Mae'n anochel bod sylw'n cael ei ganolbwyntio ar y llywodraethwyr Cymreig hynny yr ymestynai eu grym dros ran helaeth o Gymru yn y canrifoedd cyn y Goncwest Normanaidd. Bu iddynt ragarwyddo ymdrechion tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif i greu cenedl Gymreig unedig, a chyffelybu datblygiadau cyfoes yn Lloegr, a datblygiadau tebyg, ond hwyrach, yn yr Alban. Ac felly, fe bortreadir Rhodri Fawr (844-78) fel un a osododd gynsail ar gyfer y dyfodol. Fe deyrnasodd, neu, drwy ei rinweddau personol, fe ra-arglwyddiaethodd, dros lawer o Gymru.

Gan Groniclwyr ei genhedlaeth galwyd Rhodri ap Merfyn yn Rhodri Fawr, anrhydedd a roddwyd i ddau lywodraethwr arall yn yr un ganrif - Siarl Fawr (Charlemagne, a fu farw yn 814) ac Alfred Fawr (a fu farw yn 899). Mae'r tair teyrnged yn debyg -cydnabyddiaeth o orchestion dynion a gyfrannodd yn sylweddol at dwf cenedligrwydd ymysg y Cymry, y Ffrancod a'r Saeson. Yn anffodus, nid yw'r dystiolaeth gyfan am fywyd Rhodri yn ddim ond ychydig frawddegau; ac eto mae'n rhaid ei fod wedi gwneud argraff fawr ar y Cymry, gan mai bod o linach Rhodri oedd y prif gymhwyster i'w llywodraethwyr am ganrifoedd i ddod. Hyd ei farwolaeth, fe gydnabyddid Rhodri fel llywodraethwr dros hanner Cymru, a hynny drwy ddiplomyddiaeth gymaint thrwy orchfygaeth.

Cododd enwogrwydd Rhodri o'i lwyddiant fel rhyfelwr. Fe nodwyd y llwyddiant hwnnw gan yr Ulster Chronicle a chan Sedulius Scottus, ysgolhaig Gwyddelig yn llys yr Ymerawdwr Siarl Foel yn Lige. O ganlyniad i'w fuddugoliaeth dros y Llychlynwyr (Vikings) yn 856 daeth bri rhyngwladol. Roedd gan Gymru lai o'r tir ffrwythlon a'r afonydd mordwyol a ddenai'r Llychlynwyr a chafodd y brenhinoedd Cymreig gryn lwyddiant yn eu gwrthsefyll. Ynys Mn a ddug bwysau'r ymosodiad ac yno yn 856 yr enillodd Rhodri ei fuddugoliaeth fawr dros Horm, arweinydd y Daniaid, er mawr lawenydd i'r Gwyddelod a'r Ffrancod.

Nid o'r gorllewin yn unig y deuai'r bygythiad i deyrnas Rhodri. Wrth ddod yn llywodraethwr ar Bowys, tiriogaeth ei fam, fe etifeddodd yr hen frwydr gyda theyrnas Mersia. Er bod Clawdd Offa wedi ei adeiladu i ddiffinio tiriogaethau'r Cymry a'r Saeson ni rwystrodd hyn olynwyr Offa rhag ymosod ar Gymru. Fe barhaodd y pwysau ar Bowys; ar l 855, Rhodri oedd ei amddiffynwr, ac fe'i lladdwyd, ynghyd 'i fab Gwriad, mewn brwydr yn erbyn y Saeson yn 878.

 

Llinach Rhodri a thywysogion Gwynedd
Yn l i'r mynegai cestyll
Yn l i fwydlen y brif dudalen gestyll

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Jeffrey L. Thomas