Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Gruffydd ap Llywelyn

Brenin Cymru

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Walker 1990

Yn ddi-os Gruffydd ap Llywelyn oedd arweinydd amlycaf Cymru yn yr 11eg ganrif a'r tywysog disgleiriaf i ymddangos ers cyfnod Hywel Dda. Fe deyrnasodd rhwng 1039 a 1063, er na fyddai neb a'i adnabyddai'n llanc wedi disgwyl iddo arddangos yr ymroddiad egnol a nodweddai ei deyrnasiad. Mae'n debyg ei fod wedi ei sefydlu ym Mhowys erbyn 1039, blwyddyn llofruddio Iago ap Idwal o Wynedd gan ei wyr ei hun, efallai gyda chymorth Gruffydd, a datganodd hawl i deyrnas y gogledd. Roedd yn gwbl anhrugarog, gydag l gwaed cystadleuwyr a gwrthwynebwyr ar ei ddwylo, ond wrth edrych yn l fe welir ei deyrnasiad fel cyfnod o lwyddiant nodedig. Am bymtheng mlynedd ymladdodd yn galed i fod yn arweinydd teyrnas de Cymru, ond fe'i rhwystrwyd gan ddau frenin penderfynol ac ni allai honni ei fod yn rheoli Cymru gyfan hyd nes 1055. Ei darged cyntaf oedd y Deheubarth, ac ym 1039 fe yrrodd Hywel ap Edwin ar ffo o'r deyrnas.

Pan feddiannodd Gruffydd dde Cymru ymgymrodd pholisi ymosodol tuag at y Saeson. Ym 1055, cafwyd ymosodiad gwleidyddol ar Aelfgar, mab Iarll y Mers, ac ymdrech i'w alltudio. Bu Gruffydd ap Llywelyn yn gynghreiriad gwerthfawr, a chyda chefnogaeth llu o Lychlyn fe'i adferwyd i'w safle. Cyfranwyd llawer at lwyddiant Aelfgar gan gyd-ymosodiad llwyddiannus ar y lluoedd Seisnig yn Swydd Henffordd. Ysgogwyd Harold, Iarll Wessex (y Brenin Harold I yn ddiweddarach) gan y gorchfygiad hwn i ymyrryd yn uniongyrchol, gan gynnull byddin fawr a threfnu cytundeb. Yn y cyfnod hwnnw ni chynigiai Harold unrhyw amddiffyniad parhaol i'r ffin, ond yn hytrach defnyddiodd nifer o dactegau gwahanol dros y blynyddoedd nesaf. Penodwyd esgob newydd yn Henffordd, Loefgar, un o offeiriad Harold, caplan gyda hoffter o faterion militaraidd. Fe geisiodd ymosod yn ddi-rybudd ar Gymru, gyda chanlyniadau dybryd; llwyddodd Gruffydd ap Llywelyn i wthio'r ymosodiad yn ei l gan adael byddin Lloegr gyda cholledion mawr.

Nid tasg hawdd oedd ail-sefydlu heddwch ar hyd y ffin, ac am gyfnod rhoddwyd amddiffyn yng ngofal Aldred, esgob Caerwrangon, clerigwr mwy diplomataidd ac ymladdgar. Ym 1058 adnewyddwyd y gwrthdaro personol rhwng yr iarll Harold ac Aelfgar, a oedd erbyn hynny wedi etifeddu iarllaeth y Mers, ac ail-adroddwyd patrwm 1055, ond ni ellid cael gwared ag Aelfgar. Yn araf daeth sefyllfa o argyfwng i fodolaeth. Ysgwyddodd Harold gyfrifoldeb am iarllaeth Henffordd a phroblemau amddiffyn y ffin ac erbyn gaeaf 1062-63 roedd yn barod i daro. Cafwyd ymosodiad buan yng nghanol y gaeaf ar Ruddlan lle roedd gan Gruffydd lys sylweddol. Wedi ei synnu gan y tirfilwyr, llwyddodd i ddianc ar y mr. Yn haf 1063 cafwyd ail ymosodiad, gyda llynges yn cefnogi'r fyddin. Y tro hwn ni allai Gruffydd ddianc ar y mr, a bu raid iddo symud i'r canolbarth ble y'i lladdwyd gan ei elynion. Roedd wedi talu pris mawr iawn am ei gynghrair gyda llinach y Mers, cynghrair a oedd yn wastad wedi addo mwy i'r Iarll Aelfgar nag y gallai ei addo i'r tywysog Cymreig.

Roedd gorchfygaeth a marwolaeth Gruffydd ap Llywelyn yn drychineb i Wynedd ac i Gymru, a gellid disgwyl y byddai deg i bymtheng mlynedd wedi mynd heibio cyn i'r niwed gael ei atal, a chyn y gellid adnabod yr arweinydd blaenllaw nesaf ymhlith y tywysogion Cymreig. Ni ellid rhagweld y byddai'r Normaniaid (uchod) yn glanio yn Lloegr, gan gyflwyno ffactor gwbl newydd i hanes Cymru; nac felly ychwaith y ffaith drist fod marwolaeth a machlud Gruffydd ap Llywelyn ym 1063 wedi gadael Cymru'n wan a rhanedig, dim ond ychydig flynyddoedd cyn ymddangosiad y gelyn newydd a pheryglus hwn.

 

Yn l i'r mynegai cestyll
Yn l i fwydlen y brif dudalen

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Jeffrey L. Thomas