Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Gruffydd ap Llywelyn

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

O lawlyfr Cadw ar gyfer Castell Dolbadarn

Nid oedd naill ai carchariad nag alltudiaeth yn ffawd anghyffredin i'r aelodau hynny o dy brenhinol Gwynedd a ystyrid yn fygythiad i awdurdod ei arweinydd. Treuliodd Gruffydd ap Llywelyn (a fu farw ym 1244), mab anghyfreithlon Llywelyn ab Iorwerth a thad Owain Goch, lawer o'i fywyd yn garcharor a bu farw yn y diwedd wrth geisio dianc o'r carchar.

Ganwyd Gruffydd rhywbryd cyn priodas Llywelyn a'r Dywysoges Siwan. Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf tuag ato fel un o'r gwystlon y bu raid i'w dad drosgwlyddo i John, yn dilyn gorchfygaeth Llywelyn dan law'r brenin Seisnig ym 1211. Roedd Gruffydd i barhau'n garcharor hyd 1215. Er i'w dad yn ddiweddarach roi tir iddo roedd Gruffydd i'w brofi ei hun yn drafferthus, ac fe'i gwelwyd fel bygythiad i lwybr clir Dafydd fel olynydd Llywelyn. Dewisodd Llywelyn ei garcharu yng Nghastell Deganwy rhwng 1228 a 1234.

Ym 1239, tua diwedd bywyd eu tad, carcharwyd Gruffydd a'i fab Owain Goch yng Nghastell Cricieth gan Ddafydd. Ym 1241 cafodd Dafydd ei drechu'n waradwyddus dan law'r Brenin Henri III, ac yn unol ag un o dermau'r cytundeb a ddilynodd gorfu iddo draddodi Gruffydd. Bu i'r tywysog anffodus dreulio ei dair blynedd olaf yn garcharor yn Nhwr Llundain, ble y disgynnodd i'w farwolaeth tra'n ceisio dianc ym 1244 (wedi'i bortreadu mewn llawysgrif o'r oesoedd canol ar y dde). Er gwaethaf ei anlwc ymddangosiadol, bu Llywelyn, mab Gruffydd, yn llwyddiannus yn ddiweddarach yn ail-uno'r rhan fwyaf o Gymru dan ei deyrnasiad, yn ennill cydnabyddiaeth digynsail fel 'Tywysog Cymru' gan Henri III o dan dermau Cytundeb Trefaldwyn ym 1267.

 

Yn ôl i'r mynegai cestyll
Yn ôl i fynegai'r brif dudalen

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas