Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
Ar gyrion y dref, Sir Ddinbych, gogledd Cymru
![]() |
(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)
Ffotograff hawlfraint © gan John Northall
Isod i'r dde: safle castell Dyserth. Nid yw amlinell y beili allanol ond prin i'w gweld uwch y wyneb ar gopa'r chwarel ble y safai'r prif gastell o garreg.Pounds 1991
Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Iorwerth ym 1240, ymestynodd y Saeson eu hawdurdod yng ngogledd Cymru hyd at afon Conwy a dechreuwyd ar y dasg o ail-adeiladu Rhuddlan a Deganwy yn ogystal â chestyll eraill. Tua 1245 cychwynnwyd castell newydd gan Henri III yn Nyserth ar begwn gogleddol bryniau Clwyd, mewn safle o gadernid naturiol. Bwriad castell Dyserth oedd naill ai ychwanegu at neu ddisodli'r castell cyntaf yn Rhuddlan (Twthill), a fu am amser maith yn destun anghydfod rhwng Iarll Caer a thywysogion Gwynedd. Fodd bynnag, fe ddinistriwyd Dyserth a Deganwy gan Llywelyn ap Gruffydd ym 1263 ac yn ôl pob tebyg ni chawsant eu hadfeddiannu.
Alan Reid 1973
Mae hanes cynnar y castell Seisnig cymharol fychan hwn braidd yn ddryslyd - fe'i adnabyddir weithiau fel Caerfaelan, Carregfaelan, Castell y Graig a Chastell de Rupe. Mae'n bosib y dechreuwyd adeiladu castell yn agos iawn i'r safle presennol ym 1238, ond mae'n rhaid bod y safle a ddewiswyd ar ei gyfer yn anaddas, oherwydd fe adeiladwyd castell arall (neu fe ail-adeiladwyd y cyntaf) ym 1241. Sut bynnag y cychwynnodd, fe ymosododd y Cymry ar y castell ym 1245 a daeth ei yrfa byrhoedlog a dryslyd i ben lai nag ugain mlynedd yn ddiweddarach pan ddinistriwyd ef mewn ymosodiad arall.
![]()
Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas