Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Castell Sycharth

Llangedwyn, Powys, Gogledd Cymru

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

Richard Williams 1994

I'r sawl sy'n teithio'n achlysurol ar hyd y ffordd wledig, nid yw'r ffermdy cyfagos yng nghysgod y llethr coediog yn tynnu llawer o sylw. Nid yw'r adeilad yn fawr gwahanol i lawer o dyddynnod tebyg yn y gornel dde-ddwyreiniol hon o Glwyd, brin gilomedr o'r ffin Lloegr.

Fodd bynnag, mae archwilio'r safle sy'n uniongyrchol y tu draw i'r fferm yn fwy gofalus yn datgelu olion cloddweithiau castell tomen a beili, ei amlinell bellach yn cael ei chuddio gan nifer o goed a thyfiannau eraill. Ymhell o fynnu sylw'r gwarchgeidwad etifeddiaeth a'r twrist fel y gwna adeiladau Edwardaidd monolithig, mae'r cyn-gaer hon yn gorwedd bron yn angof yn ei safle gwledig.

Eto i gyd, 600 mlynedd yn l hwn oedd ty mwyaf pendefigaidd Cymru gyfan, a rhwng 1400 a mis Mai 1403 roedd yn fwy felly eto. Roedd yn ganolbwynt i bobol a oedd yn mwynhau, am un o'r cyfnodau byrion hynny mewn hanes, eu bodolaeth fel cenedl. Hwn oedd cartref Owain Glyndwr, eu tywysog.

Cyn dod i'r amlwg fel arweinydd yr ymgyrch am annibyniaeth Gymreig yn erbyn coron Lloegr, a ymgnawdolwyd gan y brenin Henri IV, roedd Glyndwr wedi gwasanaethu ei ragflaenydd, Richard II, gyda chryn anrhydedd. Roedd y gwasanaeth hwn yn deilwng o uchelwr, haenen o is-foneddigion y dewisodd y weinyddiaeth Eingl-Normanaidd yng Nghymru adael iddi ddatblygu yn dilyn gorchfygu'r wlad gan Edward I.

Roedd dosbarth llywodraethol brodorol a oedd mor wasaidd yn cyfannu arglwyddi'r Gororau a oedd bron yn hunanlywodraethol. Yn y modd yma, gellid rheoli'r dywysogaeth, gynt yn Gymreig ond bellach yn Seisnig, heb darfu gormod ar y brenin wrth lywodraethu gweddill y deyrnas. Wrth i'w dosbarth ddatblygu, fe fabwysiadodd yr uchelwyr holl addurniadau traddodiad boneddigaidd gorllewin Ewrop. Fe ddaeth eu tai i fod yn ffyniannus a dylanwadol iawn.

Fel aelod amlycaf ei ddosbarth, ac o bosib un o'r mwyaf haelfrydig, roedd Owain Glyndwr (wedi ei bortreadu yn ei Sl Fawr ar y chwith) yn arweinydd delfrydol i'r gwrthryfel. Fodd bynnag, er bod ei rl i ddod yn fuan bron yn Feseianaidd, mae'n debyg mai amharod fu ei dderbyniad yn y lle cyntaf. Er bod llinach ei fam yn ymestyn yn l drwy genedlaethau o arglwyddi'r Deheubarth (y de) fe ddewisodd Glyndwr fyw yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ble y trigai llinach ei dad a oedd yr un mor ddylanwadol. Yno, roedd yn berchen ar ddwy arglwyddiaeth, Glyndyfrdwy a Chynllaith.

Roedd y gyntaf yn ymestyn ar hyd Glyndyfrdwy, mewn ardal a ddiffinir yn awr gan drefi Corwen a Llangollen, a hon roddodd yr enw i'r teulu, tra y gorweddai Cynllaith i'r de-ddwyrain, ychydig y tu draw i ffin Mynyddoedd y Berwyn. Tra bod y cartref ar lannau afon Dyfrdwy yn ymyl Carrog o bwysigrwydd strategol i amddiffyn ei arglwyddiaeth, "Sawarth" yn arglwyddiaeth "Kentlleth" a ffafriai Glyndwr fel cartref maenorol. Fel Carrog, roedd Sycharth yn gastell tomen a beili, ei gynllun cyffredinol yn cynnwys tomen bridd ar ffurf cn cwta, ffosedig ac yn ymylu ar safle mwy, siap aren, gyda ffos debyg, y beili.

Fe amgylchynid llwyfannaugwastad y domen a'r beili, ynghyd holl derfynau allanol yr adeilad, gan stanciau pren ac fe gysylltid y ddwy brif ran gan bont godi. Syniad strategol y cynllun oedd galluogi cwmni dan warchae i gilio i'r domen gadarnach i aros cymorth. Copa'r domen, hefyd, oedd safle'r neuadd faenorol, cartref yr arglwydd a'i deulu a'i weision agosaf. Ar yr un pryd fe leolwyd llawer o'r gwasanaethau a ddiwallai anghenion y cartrefle hwnnw yn y beili. Yn naturiol, hwn hefyd oedd llinell amddiffyn cyntaf trigolion y castell.

Roedd y castell tomen a beili yn syniad a gariwyd i Brydain gan y Normaniaid. Fe'i defnyddiwyd, yn arbennig, fel dull o atgyfnerthu eu caerau ar draws Lloegr ac i mewn i Gymru. Mewn cymdeithas ffiwdal dwyslafur roedd yn ddull cyflym a pharod o godi caer gan ddefnyddio gweithlu di-grefft. Wrth i hynt y goresgynnwr a'r rhai a oresgynnwyd droi yn ystod y 12ed a'r 13eg ganrif, fe gopodd yr arglwyddi a'r tywysogion Cymreig y dull hwn o atgyfnerthu. O ganlyniad i hyn mae gororau Cymru'n frith o olion y math hwn o bensaernaeth filwrol. Fodd bynnag, oherwydd y diffyg parhauster sy'n gysylltiedig 'u rhannau uchaf, yn aml dim ond llygaid craff pobol broffesiynol sy'n gallu eu darganfod.

Erbyn diwedd y 14eg ganrif roedd cynllun cestyll wedi symud ymhell oddi wrth y domen a'r beili. Yn gyntaf, fe ddatblygwyd y gorthwr carreg, a ddilynwyd wedyn gan y caerau mwy cyfarwydd a ffafriwyd gan Edward I, caerau gyda chysylltfuriau a thyrau, ac wedi'u cynllunio'n fwy cynhwysfawr. Pam, felly, y dewisodd Owain Glyndwr gartref 'hen ffasiwn'? Mae'n rhaid cofio ei fod yn arweinydd ei gymdeithas hyd yn oed cyn y gwrthryfel. A oedd ei ddewis yn rhan o'r un syndrom sy'n arwain y frenhines bresennol i fyw am ran o'r amser mewn adeilad hen ffasiwn arall, Castell Windsor? A fu iddo benderfynu arno am ei fod yn arddull cymaint o gyn-dywysogion Cymreig ac felly'n gysylltiad ag etifeddiaeth ei gynheiliaid?

Wel, ei ddewis a wnaeth, ac mae tystiolaeth helaeth o'r math o gartref ydoedd. Nid yw'r dystiolaeth hon yn dod i ni drwy ffynonellau cydnabyddedig yr Oesoedd Canol - y croniclwyr mynachaidd - ond drwy ffynonellau barddol. Chwaraeai'r bardd ran amlwg yng nghartref tywysog Cymreig, a chanddo o leiaf ddwy brif swyddogaeth. Yn gyntaf fe ledaenai fanylion am yr etifeddiaeth, ac yn ail fe foliannai ei feistr neu benteulu cartref bonheddig arall.

Cyn belled ag yr oedd Owain Glyndwr yn y cwestiwn, nid oedd neb yn fwy toreithiog na Iolo Goch, ac mae llawer o'i gerddi ar gael i ni. Mae 'Llys Owain Glyndwr' yn cyfeirio'n arbennig at Sycharth. Yn ei lyfr Iolo Goch: Poems, disgrifia Dr Dafydd Johnston y gerdd hon fel un 'ddifyr iawn ar lefel arwynebol fel portread o dy hardd, ond gorwedd ei gwir rym yn arwyddocd symbolaidd y disgrifiad fel adlewyrchiad o drefn gymdeithasol ddelfrydol'. Mae'r gerdd yn rhoi sylw manwl i adeiladwaith y castell a disgrifiad o'r cyffiniau. Beth sy'n fwy arwyddocaol, fodd bynnag, yw'r darlun a roir i ni gan y bardd o gartref rhadlon, cynnes a gwahoddgar ble y croesewir pob teithiwr didwyll chynhaliaeth, lloches a chymdeithasgarwch.

Byddai priodas Catrin, merch Owain, efo Sir Edmund Mortimer wedi bod yn un o'r troeon hynny pan ddaeth lletygarwch Sycharth yn rhan o achlysur mawreddog o seremoni a gwledda. Y dyddiad oedd diwrnod olaf mis Tachwedd 1402, ac roedd y priodfab yn garcharor i Glyndwr. Wedi ei ddal ym Mrwydr Pyllalai y mis Mehefin blaenorol roedd y cynrychiolydd hwn o un o dri thy pendefigaidd mwyaf pwerus Lloegr wedi ei ddadrithio gan agwedd chwerw Henri tuag at ei gymryd yn garcharor. Yn fuan wedi'r briodas fe ochrodd yn gyhoeddus ag achos y Cymry a'i gwasanaethodd yn anrhydeddus hyd ei farwolaeth yng ngwarchae Castell Harlech ym 1409.

Nid oedd bri Sycharth i oroesi llawer hwy. Ym mis Mai 1403 fe daniwyd Glyndyfrdwy a Sycharth gan y Tysywog Hal, yn barod, yn 16 oed, yn arddangos y rhinweddau milwrol y byddai'n eu harddangos eto fel y brenin Henri V yn Agincourt. Hyd ei gwymp, Harlech (ar y dde) fyddai canolfan weithredu Owain Glyndwr. Wedi iddo gael ei orfodi i droi at herwryfela (hyd at rywbryd ym 1415) fe rithiodd o lwyfan hanes.

Ym 1962 fe wnaethpwyd ymchwiliad archaeolegol o'r safle ac o'r pridd fe godwyd ychydig arteffactau a ymddangosai'n gysylltiedig thrigfan ar ben y domen. Nid yw'n bosib cadarnahu mai o neuadd faenorol Owain y daeth y rhain, ond mae'n ddigon posib.

Mae hyn yn dod ni at heddiw a'r arwyddion o ymgyrch i atgyweirio'r safle. Mae nifer o bobol, gan gynnwys yr awdur, yn ffieiddio at y ffaith bod safle mor bwysig yn hanes ein cenedl wedi ei esgeuluso i'r fath raddau. Nid oes yr un arwydd, er enghraifft, i'r sawl sy'n mynd heibio, mai yma, dim ond megis tafliad carreg o'r ln gul hon yng Nghlwyd, y safai cartref gwir dywysog olaf Cymru. Mae Plaid Cymru, drwy'r AS Cynog Dafis, ar hyn o bryd yn cyflwyno achos i'r awdurdodau priodol. Fodd bynnag, mae'n fater anwleidyddol ac fe ddylai ddenu cefnogaeth pawb sy'n eu hystyried eu hunain yn Gymry, yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

Mae cestyll Edward yn ddathliad digonol o wladychiad Cymru. Mae'n amser bellach i roi sylw i'r rhai a amddiffynnodd ein bodolaeth fel cenedl.

Fe ddefnyddir yr erthygl hon, a ymddangosodd yn gyntaf yn rhifyn mis Tachwedd 1994 o Ninnau, gyda chaniatad yr awdur. Er ei fod yn byw yng nghanolbarth Lloegr ers dros 30 mlynedd mae Richard Williams yn frodor o Fangor, Cymru, ac mae'n siarad Cymraeg. Ar l graddio o Brifysgol Caerdydd, daeth yn ddarthlithydd mewn cemeg ac yn ohebydd ac yn ddarlledwr annibynnol ar chwaraeon. Wedi hanner ymddeol bellach mae'n rhoi darlithoedd gyda darluniau ar Owain Glyndwr. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Owain, cysylltwch ag ef yn 18 Apple Tree Close, Kidderminster, DY10 2SZ, UK.

 

 

 

 

 

 

 

Gwybodaeth bellach am Owain Glyndwr
Yn l i'r mynegai cestyll
Yn l i fwydlen y brif dudalen gestyll

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Richard Williams and the Castles of Wales Website