Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

"Gochelwch rhag Gymru, Crist Iesu a'n cadwo,
Fel na ddaw dagrau i blant ein plant,
Nag i ninnau chwaith, onis digwydd drwy ddiofalwch,
Gan fod dyn, ers llawer dydd,
Yn ofni gwrthryfel yno"

(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)

 

"Yng Nghymru daeth etifeddiaeth o oresgyn llwyr 'i phroblemau'i hun, yn benodol dig a oedd, yn hinsawdd economaidd ansefydlog diwedd y 14eg ganrif, wedi'i ganoli ar y bwrdeisdrefi Seisnig ac wedi ei gyfeirio tuag at swyddogion yr Eglwys a'r ladwriaeth a ddeuai yn bennaf o siroedd Seisnig y gororau neu o ymhellach draw. O 1400 ymlaen fe sianelwyd y dig hwn i rthryfel Owain Glyndwr, ac yn dilyn y profiad annifyr hwnnw fe ystyriwyd Cymru gydag amheuaeth ac ofn gan y mwyafrif o Saeson."

The Oxford Illustrated History of Britain

 

"Wrth drafod datblygiad trefi Edwardaidd yng ngogledd Cymru, mae'n bwysig cofio bod yr "ymsefydlwyr" newydd hyn yn wynebu rhwystrau aruthrol mewn tiriogaeth a oedd yn y bn yn elyniaethus. Fe boblogwyd trefi newydd Edward gan ymsefydlwyr Seisnig ymysg poblogaethau brodorol Cymreig a oedd wedi'u gorchfygu. Yn y blynyddoedd cynnar yn enwedig, bu raid i'r ymsefydlwyr Seisnig fod yn gyson wyliadwrus rhag ymosodiadau, ac yn aml y castell oedd y lloches olaf. Mewn llawer i achos, fe ddinistrwyd adeiladau a chnydau y tu mewn a'r tu allan i drefi o ganlyniad i gyrchoedd gan y boblogaeth frodorol rwystredig. Ymhen amser, fe lwyddodd trefi newydd Edward i sefydlu heddwch anniddig gyda'u cymdogion. Fodd bynnag, yn aml fe rwystrwyd Cymry rhag mynd i mewn i dref neu rhag masnachu o fewn ei muriau neu yn yr ardaloedd o amgylch. Mewn rhai achosion, os y daethpwyd o hyd i Gymro oddi mewn i furiau'r dref wedi machlud yr haul fe allai gael ei dywys i'r castell i'w grogi. Amrywiai llymder y cyfyngiadau yn erbyn y Cymry o dref i dref, ond arweiniodd y breintiau anghyfartal hyn at densiynau a rhwystredigaeth a arweiniodd at chwildro Owain Glyndwr, gwrthryfel cenedlaethol syfrdanol ym mlynyddoedd cynnar y 15ed ganrif. Efallai'n wir i'r bwrdeisiaid fanteisio oherwydd breintiau arbennig y tu mewn i furiau trefi newydd Edward, ond yn aml fe ddeuai'r breinitau hynny am bris ofnadwy.

Fodd bynnag, er nad oedd cestyll Edward yng Nghymru brin fwy na rhagorsafoedd unig, dim mwy na symbolau o reolaeth Seisnig mewn tiriogaeth elyniaethus, roeddent mewn gwirionedd yn hynod effeithiol wrth rwystro'r Cymry rhag gwyrdroi buddugoliaethau Edward ym 1277 a 1282 ac adennill rheolaeth dros yr ardal. Profodd cestyll Edward eu gwerth dro ar l tro, erioed yn fwy felly nag yn ystod chwildro Owain Glyndwr.

Jeffrey L. Thomas

 

"Ers 1410 mae'r rhan fwyaf o'r Cymry y rhan fwyaf o'r amser wedi rhoi heibio unrhyw syniad o annibyniaeth. Ond, ers 1410 mae'r rhan fwyaf o'r Cymry, pe na bai ond yng nghilfachau cyfrin y meddwl, wedi bod allan rhywdro neu'i gilydd gydag Owain a'i ddilynwyr troednoeth." Fe blagir meddyliau'r Cymry o hyd gan ei weledigaeth o genedl rydd."

Gwyn A. Williams

 

BYn l i'r mynegai cestyll
Yn l i fwydlen y brif dudalen gestyll

Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links

Copyright 2009 by Jeffrey L. Thomas