Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
Rhuddlan, un o gestyll cyntaf Edward yng ngogledd Cymru, a Biwmaris, yr olaf.![]()
![]()
(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)
I'r dde: Cestyll Gogledd Cymru a Rhyfeloedd Annibyniaeth Cymru
Cynrychiolai'r cestyll a adeiladwyd gan Edward I estyniad a chwblhad o'r cynllun a etifeddodd gan ei dad, Henri III, ynghyd â'i gynllun strategol celfydd ei hun. Drwy lawer o Gymru a'r Gororau bodlonodd ar ddal a chadarnhau nifer cymharol fechan o gestyll mewn mannau strategol, gydag Aberteifi, Caerfyrddin, Aberystwyth, Llanfair ym Muallt a Threfaldwyn y pwysicaf, ond roedd ei wariant arnynt yn fach. Gogledd Cymru gynrychiolai'r perygl mwyaf ac yma y canolbwyntiodd ei fuddsoddiad a'i ymdrechion. I'r gorllewin o Gaer roedd pob castell, brenhinol a barwnol, wedi dioddef i ryw raddau ymosodiadau gan y Cymry. Cynllun y brenin oedd trwsio ac ail-adeiladu lle'n bosib, a lle nad oedd hynny'n bosib, adeiladu cestyll newydd o gynllun mwy gwyddonol ac wedi'u lleoli'n fwy gofalus. Ni thrwsiwyd dau o gestyll pwysicaf ei dad, Dyserth a Deganwy. Yn hytrach, fe'u disodlwyd yn eu tro gan Ruddlan a Chonwy. Cymerodd y Fflint, mewn gwirionedd, le Penarlâg a'r Wyddgrug, ond fe adeiladwyd pedwar castell mawr gogledd Cymru (Conwy, Harlech, Caernarfon a Biwmaris) ganddo o'r newydd.
Cynrychiola gylch haearn ofnadwy Edward I o gestyll enfawr gynllun adeiladu mwyaf dwys ac uchelgeisiol Ewrop yn yr oesoedd canol, gyda'r bwriad o rwystro ailadrodd dwy ymgyrch filwrol ddrudfawr. Wedi ymgyrch lwyddiannus gyntaf Edward ym 1277, llwyddodd i hoelio'i elyn Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn ein Llyw Olaf) yn Eryri ac ar Ynys Môn. Rhoddodd hyn ddigon o le ac amser iddo adeiladu cestyll y Fflint, Llanfair ym Muallt, Rhuddlan ac Aberystwyth, sydd i gyd bellach yn adfeilion, yn ogystal ag i feddiannu ac uwchraddio cestyll Cymreig - ymgais gyntaf Edward i ddarostwng.
Aflwyddiannus yn y diwedd fu ail chwyldro Llywelyn ym 1282 ac, mewn arddangosiad hynod gostus o rym Lloegr, aeth Edward ati i atgyfnerthu'i gylch o gadarnleoedd er mwyn sicrhau na fyddai'n gorfod brwydro drydydd tro am yr un tir. Ynghyd â Chytundeb Rhuddlan ym 1284, llwyddodd hyn mewn gwirionedd i sathru gwrthsafiad y Cymry. Mae cestyll Harlech, Caernarfon a Chonwy, er eu bod fwy neu lai'n gydoesol, yn dangos dilyniant unigryw tuag at gynllun consentrig, tra datblygiedig diweddarach Biwmaris.
Roedd yr ail glwstwr yma i gyd, gan gynnwys muriau Caernarfon a Chonwy, yn waith prif bensaer milwrol yr oes, James o St George d'Esperanche, y cydnabyddir ei waith bellach fel un o Safleoedd Treftadaeth Byd-eang y Cenhedloedd Unedig. Integreiddiwyd pob un o'r cestyll â thref gaerog, syniad a fenthycwyd o Gasconi yn ne-orllewin Ffrainc, ble yr oedd Edward I yn ddug - y dref a'r castell yn gyd-ddibynnol y naill ar y llall am amddiffyn a masnach. Fe boblogwyd y trefi caerog ag ymsefydlwyr Seisnig, gyda chaniatad i'r Cymry fynd i mewn i'r dref yn ystod y dydd ond nid i fasnacha ac yn sicr nid i gario arfau. Chafodd y Cymry ddim trefi a berthynai iddynt hwy yn eu hawl eu hunain tan y 18ed ganrif.
Roedd cestyll Edwardaidd gogledd Cymru yn agos at gael eu cwblhau pan ffrwydrodd chwyldro 1294-5. Fe ddisbyddwyd eu garsiynau gan gyrch y brenin i Gasconi. Fe warchaewyd nifer ohonynt, gan gynnwys Aberteifi a Chaernarfon, ond fe gyfyngwyd ar ymlediad y chwyldro gan reolaeth y Saeson dros y môr. Llwyddodd y cestyll i wrthsefyll tra roedd yn bosib eu cyflenwi gyda llongau. Fe gyflenwyd Aberystwyth, Conwy ac efallai Cricieth a Harlech o Fryste ac Iwerddon. Yn ystod y gaeaf - cyfnod digon cyffredin i gynnal ymgyrchoedd - gwthiodd lluoedd y brenin i mewn i Wynedd. Fe ryddhawyd Caernarfon, ac yn ystod gwanwyn 1295 cychwynnodd y gwaith ar yr olaf o gestyll Edward, Biwmaris.
Profodd Edward anhawster mawr wrth dalu am ei raglen adeiladu, er ei bod yn wir i ddweud na ellid gwybod ei gwir gôst ariannol. Dros gyfnod o 12 mlynedd fe wariodd £60,000 (tua £33 miliwn yn nhermau heddiw), dros ddeng gwaith ei incwm blynyddol, ar adeiladu cestyll a threfydd caerog yng Nhonwy, Caernarfon, Biwmaris ac atgyweirio castell Llywelyn yng Nghricieth. Mae'r rhaglen integreiddiedig hon - pob bwrdeistref wedi'i hamddiffyn gan ei chastell ei hun a phob castell yn hawdd i'w gyrraedd o'r môr - wedi rhoi i Gymru etifeddiaeth o bensaerniaeth filwrol o wir bwysigrwydd rhyngwladol.
The Medieval Castle in England and Wales, N. J. G. Pounds, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1994.
Wales - The Rough Guide, Mike Parker and Paul Whitfield, Rough Guides Ltd, Llundain, 1994.Ers cyfnod hir fe ystyrir mai'r gwaith diffiniol ar ymgyrchoedd Edward I yng ngogledd Cymru yw The Welsh Wars of Edward I gan John E. Morris.
Dysgwch fwy am drefi caerog Edward I yng ngogledd Cymru
Nesaf: Cestyll Cymreig yn dilyn y Goresgyniad
Cysylltiad i dudalen Castell Deganwy
Cysylltiad i dudalen Castell y Fflint
![]()
Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
Copyright © 2009 by Jeffrey L. Thomas